Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn garreg filltir eleni a hithau’n ugain mlynedd ers datganoli. Dyma’r gyllideb gyntaf a fydd yn cwmpasu cyfnod a fydd yn cynnwys datganoli trethi, mewn perthynas â threth trafodiadau tir a threth gwarediadau tir i gychwyn, gan ddechrau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Gwn eich bod wedi bod yn gweithio’n agos gyda mi yn y Pwyllgor Cyllid ar lunio’r trethi hynny. A gaf fi ofyn i chi: a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chyfraddau’r trethi newydd?