2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 27 Medi 2017.
Symudwn yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a’r llefarydd cyntaf heddiw yw llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn garreg filltir eleni a hithau’n ugain mlynedd ers datganoli. Dyma’r gyllideb gyntaf a fydd yn cwmpasu cyfnod a fydd yn cynnwys datganoli trethi, mewn perthynas â threth trafodiadau tir a threth gwarediadau tir i gychwyn, gan ddechrau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Gwn eich bod wedi bod yn gweithio’n agos gyda mi yn y Pwyllgor Cyllid ar lunio’r trethi hynny. A gaf fi ofyn i chi: a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chyfraddau’r trethi newydd?
Mae’n debyg mai math o gwestiwn ‘ymgais dda’ oedd hwnnw. Llywydd, byddaf yn cyhoeddi cyfraddau a bandiau ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir yn y gyllideb ddrafft y byddaf yn ei chyflwyno i’r Cynulliad hwn ddydd Mawrth nesaf, 3 Hydref.
Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn deall pam rwy’n gofyn, gan fy mod wedi gwirio tudalen ar wefan Llywodraeth Cymru, y mae’n bosibl y byddwch yn ymwybodol ohoni, mewn perthynas â threth trafodiadau tir, sy’n dweud y bydd y cyfraddau a’r bandiau’n cael eu cyhoeddi, neu fod disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi, erbyn diwedd y mis hwn, erbyn Hydref 2017. Felly, nid oes llawer o amser ar ôl ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw. Os na fydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad hwnnw, a allwn fod yn gwbl sicr y caiff ei chyhoeddi yr wythnos nesaf yn y gyllideb ddrafft, ac a allwn fod yn sicr y bydd yn cynnwys yr holl fanylion am y cyfraddau a’r bandiau hefyd, yn hytrach na’i bod yn ein gorfodi i aros am fwy o wybodaeth yn nes ymlaen?
Cadeirydd, gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, mewn gohebiaeth â chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, y cytunwyd y byddai’r cyhoeddiadau ar gyfraddau a bandiau yn cael eu gwneud ar 3 Hydref fel rhan o becyn y gyllideb gyfan y byddaf yn ei gyhoeddi ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf. Rwy’n fwy na pharod i roi sicrwydd i’r Aelod y bydd y cyfraddau a’r bandiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu nodi’n llawn ar y diwrnod hwnnw.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd rhai ohonom yn y Pwyllgor Cyllid, ac yn wir, rhai o Aelodau eraill y Siambr yn gyffredinol, yn teimlo bod yna ddadl gref iawn ar y pryd dros gynnwys y cyfraddau a’r bandiau treth ar wyneb y Bil, ond roedd eich ymrwymiad yng Nghyfnod 2 i gyhoeddi’r cyfraddau ymhell cyn mis Ebrill yn gwneud llawer i liniaru’r pryderon hyn—ymrwymiad a ailadroddoch ar 28 Mawrth yn y Siambr hon, a nodai, yn ôl y Cofnod, eich bod wedi dweud y byddent yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Hydref, a chredaf mai dyna’r ymrwymiad a roddwyd i’r Pwyllgor Cyllid. [Torri ar draws.] O’r gorau. Nid wyf am fod yn bedantig am y peth ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi ymrwymo i gyhoeddi’r cyfraddau a’r bandiau hynny yr wythnos nesaf. Rwyf eisoes wedi gofyn i chi sicrhau y byddwn yn cael yr holl wybodaeth. Wrth inni gyrraedd y garreg filltir hon o ran datganoli trethi, a ydych yn cytuno fod yn rhaid i drethdalwyr Cymru fod yn hyderus y bydd yr holl wybodaeth ar gael iddynt cyn mis Ebrill er mwyn inni allu sicrhau, pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw mewn perthynas â datganoli trethi, fod y cyfnod pontio mor ddidrafferth â phosibl, a bod y broses o ddatganoli trethi yn llwyddo yn unol â dymuniadau pawb yn y Siambr hon.
Dirprwy Lywydd, mae Nick Ramsay wedi gwneud y pwynt yn gyson iawn yn ystod taith y ddau Fil treth ac yn y Pwyllgor Cyllid, fod y sicrwydd hwnnw i drethdalwyr Cymru wrth inni symud tuag at y set newydd o drefniadau yn bwysig iawn, fel y mae sicrwydd i fusnesau. Dyna pam roeddwn yn fwy na pharod i ymrwymo i wneud cyhoeddiad cynnar ar fwriad y Llywodraeth mewn perthynas â chyfraddau a bandiau, a thrwy gyhoeddi hynny ar 3 Hydref yng nghyd-destun y gyllideb yn gyffredinol, credaf y bydd hynny’n gymorth i bobl ddeall pam ein bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethom. Ynghyd â’r gyllideb, byddwn yn cyhoeddi set newydd o wybodaeth nad oedd ar gael i’r Cynulliad cyn hyn, gan gynnwys, er enghraifft, asesiad annibynnol ysgol fusnes Bangor o’r rhagolygon treth sydd wrth wraidd y cyfraddau a’r bandiau y byddaf yn eu cyhoeddi.
Diolch. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gan fod fy mam-gu ar ochr fy mam wedi’i geni ym Moncton, New Brunswick, hoffwn groesawu ein gwesteion nodedig yn yr oriel hefyd. Mae hynny’n golygu fy mod yn chwarter New Brunswickiad, mae’n debyg. [Torri ar draws.]
Rydym wedi gweld eisiau presenoldeb siriol y Gweinidog dysgu gydol oes yr wythnos hon, gan ei fod yng nghynhadledd y Blaid Lafur, lle y gwelais ei fod wedi dweud ddoe, yn sgil cyhoeddiad John McDonnell y bydd y Blaid Lafur yn dod â chontractau mentrau cyllid preifat i ben ac yn eu prynu yn ôl, nad oes mentrau cyllid preifat yng Nghymru. Ond wrth gwrs, rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw hynny’n hollol gywir. Mewn gwirionedd, mae cyfanswm gwerth cyfalaf y contractau mentrau cyllid preifat sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru yn £565 miliwn, gyda chyfanswm y taliadau unedol—y swm y byddant wedi’i gostio erbyn diwedd y cyfnod ad-dalu—bron yn chwe gwaith hynny, ar £3 biliwn. Onid yw’n gwneud synnwyr bellach i Lywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o ailariannu hyn ar sail fwy costeffeithiol?
Wel, Cadeirydd, yr hyn y cyfeiriai fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ato yw’r ffaith nad ydym wedi cytuno i gytundebau mentrau cyllid preifat newydd yn ystod y cyfnod ers datganoli. Mae’r Aelod yn llygad ei le fod gennym 23 o gytundebau mentrau cyllid preifat hanesyddol a ddaw o’r cyfnod cyn datganoli, ond nid yw Llywodraeth Cymru ond yn uniongyrchol gyfrifol am ddau ohonynt. Yn wir, ceir enghreifftiau yng Nghymru eisoes lle y mae sefydliadau sy’n ymrwymo i gytundebau mentrau cyllid preifat wedi dod i’r casgliad y byddent yn newid i drefniadau eraill. Felly, nid oes gennym hanes diweddar y mae’n rhaid inni ei ddatod fel y mae’n rhaid ei ddatod mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a lle y bo’n well gwneud trefniadau eraill, mae gennym hanes blaenorol o weld y trefniadau hynny’n newid hefyd.
Rwy’n llwyr gydnabod bod record Llywodraeth Cymru yn llawer gwell na record Llywodraeth y DU mewn perthynas â chontractau mentrau cyllid preifat. Yn wir, 1.7 y cant yn unig o gyfanswm y DU yw canran cyfanswm y taliadau unedol, yr ad-daliadau blynyddol, a fydd yn cael eu gwneud. Felly, mae hynny’n beth da iawn. Ond mae dyled sylweddol o hyd i’w had-dalu dros nifer o flynyddoedd, a bydd gostwng costau’r ad-daliadau hynny, o flwyddyn i flwyddyn, yn golygu bod mwy o arian i’w wario ar bethau da eraill y mae angen i’r sector cyhoeddus wario arnynt.
O’r prosiectau na thalwyd amdanynt ar hyn o bryd, mae’r A55 rhwng Llandygai a Chaergybi; roedd gwerth cyfalaf y prosiect hwnnw’n £100 miliwn. Ceir datblygiad Rhodfa Lloyd George a Sgwâr Callaghan yma yng Nghaerdydd; roedd gwerth cyfalaf gwreiddiol y prosiect hwnnw’n £45 miliwn. Dyna bron i draean o gyfanswm y prosiectau na thalwyd amdanynt o ran gwerth, ac am y £145 miliwn o gyfalaf a ddarparwyd ymlaen llaw, mae’r costau ad-dalu bron yn £800 miliwn. Mae honno’n fargen warthus a gorau po gyntaf y gallwn ddatod y contractau hyn.
Mae’r Aelod yn llygad ei le wrth nodi, o’r 23 cynllun, y ddau sy’n gynlluniau uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ac nid wyf yn anghytuno ag ef o ran egwyddor yr hyn a ddywedodd, fod angen cadw’r holl gynlluniau hyn dan adolygiad, er mwyn sicrhau, os oes modd aildrefnu pethau er budd trethdalwyr Cymru, ein bod bob amser yn agored i wneud hynny. Fel y dywedais, mae enghreifftiau o hynny’n digwydd eisoes yng Nghymru. Felly, mae’n amlwg nad ydym yn gwrthwynebu’r posibilrwydd o wneud hynny.
Rwy’n falch iawn o glywed yr ateb hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet. A yw’n cytuno bod llawer iawn gan Lywodraethau Blair a Brown i ateb drosto, am eu hafradlonedd yn cytuno’n ddi-hid i gontractau o’r fath yn ystod y blynyddoedd anodd hynny, ac er y gall Llywodraeth Cymru ymfalchïo yn ei pherfformiad mewn cymhariaeth, fod perfformiad y Llywodraethau Llafur yn San Steffan wedi bod yn hollol anobeithiol? O’r holl gontractau mentrau cyllid preifat a luniwyd, cafodd wyth deg pedwar y cant ohonynt eu llunio pan oedd Blair yn Brif Weinidog neu Brown yn Brif Weinidog. Felly, mae gan y Blaid Lafur staen go fawr ar ei record.
Wel, Llywydd, ‘Aliae gentes, aliae mores’, lle y mae pobl eraill yn gyfrifol am y penderfyniadau a wnaethant o dan yr amgylchiadau y cawsant eu gwneud ganddynt. Yma yng Nghymru, wynebwyd yr un penderfyniadau gennym o’r cychwyn cyntaf, fe edrychom ni ar bethau o gyfeiriad gwahanol, ond efallai fod natur y broblem y ceisiem fynd i’r afael â hi yn wahanol hefyd.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y tir cyffredin newydd hwn sy’n ymddangos rhwng John McDonnell a Neil Hamilton; nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn byw i weld hynny, mewn gwirionedd. Ond Cadeirydd, a gaf fi balu ychydig yn ddyfnach? Roedd gennyf gryn ddiddordeb, a bûm yn gwrando’n astud ar yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid. Yn sgil cyhoeddiad canghellor yr wrthblaid ynglŷn â dod â’r prosiectau hyn yn ôl i’r sector cyhoeddus, ai polisi’r Blaid Lafur yng Nghymru bellach, ac felly polisi’r Llywodraeth hon, yw dod â’r prosiectau mentrau cyllid preifat presennol yng Nghymru yn ôl yn fewnol, ac felly ar fantolen Llywodraeth Cymru pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn San Steffan?
Wel, Cadeirydd, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach gan ei bod yn bwysig inni gael cyd-destun hyn yn gywir. Mae graddau’r broblem sy’n ein hwynebu yng Nghymru yn wahanol tu hwnt i’r broblem a wynebir mewn mannau eraill, ac mae diweddarwch y cynlluniau mentrau cyllid preifat y byddai’n rhaid inni fynd i’r afael â hwy yn wahanol iawn hefyd. Dim ond 23 cynllun a fu yng Nghymru ac ychydig iawn o fentrau cyllid preifat newydd a fu yn y cyfnod ers datganoli, ac o’r 23 cynllun, nid yw Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am 21 ohonynt gan eu bod yn perthyn i awdurdodau lleol ac i’r gwasanaeth iechyd. Ond rydym yn hollol agored i adolygu’n barhaus a ellid gwella’r trefniadau hynny a sicrhau gwell bargen i’r trethdalwr ai peidio, a phan gawn y Llywodraeth Lafur nesaf, byddwn yn gallu gwneud hynny’n llawer gwell.
A gawn ni droi at y presennol, felly? Oherwydd mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’r defnydd o bartneriaethau cyhoeddus-preifat, ydy, drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol sy’n cynnwys cyfran leiafrifol a ddelir gan Lywodraeth Cymru, ond delir y gyfran fwyaf, 75 y cant ac uwch, gan y sector preifat, gan ddefnyddio ieithwedd y Llywodraeth ei hun, lle y gall partneriaid preifat adeiladu a chynnal asedau cyhoeddus, a lle bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffi i’r partner preifat i dalu costau adeiladu, cynnal a chadw, ac ariannu’r prosiect.
Disgrifiwyd cynlluniau tebyg yn yr Alban gan Blaid Lafur yr Alban fel ‘mentrau cyllid preifat o dan enw arall’. Yn wir, mae’r contract ar gyfer prosiect newydd yr A465, sydd newydd gael ei osod, yn seiliedig ar hen gontract safonol menter cyllid preifat y GIG. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ai polisi’r Blaid Lafur yng Nghymru a pholisi Llywodraeth Cymru bellach fydd dod â’r oddeutu 75 y cant o’r prosiectau hyn a fydd yn parhau i fod mewn perchnogaeth breifat yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn San Steffan?
Wel, Dirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir mai fy newis cyntaf bob tro, o ran fy ymagwedd tuag at wariant cyfalaf fel Gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, yw cyfalaf cyhoeddus uniongyrchol. Byddai bob amser yn well gennyf gyllido prosiectau cyfalaf yn y modd hwnnw gan mai dyna’r ffordd rataf i drethdalwyr Cymru. A phe bawn yn y sefyllfa braf o fod â digon o gyfalaf cyhoeddus i allu gwneud yr holl bethau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol Cymru, gan gynnwys y pethau y byddwn yn eu gwneud drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol, byddai’n well gennyf allu parhau yn y ffordd honno. O dan y Llywodraeth Lafur nesaf, byddwn mewn sefyllfa well o lawer i wneud hynny. Fel y mae ar hyn o bryd, mae’n rhaid i mi gynllunio ar gyfer y sefyllfa rwyf ynddi heddiw, lle y bydd gennym, yn 2019-20, gyllideb gyfalaf o £400 miliwn yn llai bob blwyddyn na’r hyn ydoedd ddegawd yn gynharach, ac anghenion pwysig sy’n rhaid eu diwallu. Yn y cyd-destun hwnnw rydym wedi gorfod bod yn fwy dychmygus o ran y ffordd rydym yn sicrhau buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru. Pe na bai’n rhaid i mi ei wneud, pe bai gennyf symiau digonol o gyfalaf cyhoeddus confensiynol ar gael at fy nefnydd, buaswn bob amser yn defnyddio hwnnw yn gyntaf.
Rydych yn nodi dimensiwn arall: yr anghymesuredd creadigol sydd weithiau’n nodweddu safbwynt polisi Llafur, rwy’n credu, gan ddweud un peth yn San Steffan neu Brighton weithiau a dweud rhywbeth arall yng Nghymru. Yn fy marn i, cawsom ddatganiad braidd yn rhyfedd gan arweinwyr Llafur y tri chyngor mwyaf yng Nghymru, lle roeddent yn dweud y byddent yn cefnogi streic gan eu staff cyngor eu hunain yn erbyn eu cynghorau yn erbyn cap cyflog y gallent hwy a’u Llywodraeth Lafur eu hunain yng Nghymru ei godi. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd yn ymuno â’i gyd-aelodau Llafur i ddweud y byddai’n annog ac yn cefnogi streic yng Nghymru gan weithwyr y sector cyhoeddus, neu a yw’n barod i arwain drwy esiampl a chodi’r cap cyflog hwnnw fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i wneud?
Wel, Cadeirydd, darllenais yr hyn a ddywedodd yr arweinwyr Llafur yn ofalus iawn, a gwelaf fod y Cynghorydd Andrew Morgan wedi dweud yn glir iawn mai ei flaenoriaeth gyntaf ef oedd osgoi streic, yn hytrach nag annog streic; dyna yw ein blaenoriaeth gyntaf ninnau. Ond aeth yn ei flaen i ddweud, fel y byddem yn ei ddweud ar y meinciau hyn, ei bod yn gwbl ddealladwy, pan fo cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu cadw i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac o dan fesurau cyni am yr wythfed a’r nawfed flwyddyn bellach, fod pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt dynnu sylw eraill at yr effaith y mae hynny’n ei chael ar eu bywydau. Mae ein safbwynt mewn perthynas â’r cap cyflog mor glir â phosibl. Rydym yn dweud wrth Lywodraeth y DU, ‘Mae’n rhaid i chi godi’r cap cyflog. Eich polisi chi yw hwn. Chi sy’n gyfrifol amdano. Mae’n rhaid i chi godi’r cap cyflog, ac mae’n rhaid i chi ddarparu’r arian a fyddai’n caniatàu i gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru gynyddu’n unol â’r gwerth rydym yn ei roi ar y gwaith y maent yn ei wneud.’
Diolch. Dychwelwn at y cwestiynau ar yr agenda, a daw cwestiwn 3 gan Jayne Bryant.