<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:42, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn deall pam rwy’n gofyn, gan fy mod wedi gwirio tudalen ar wefan Llywodraeth Cymru, y mae’n bosibl y byddwch yn ymwybodol ohoni, mewn perthynas â threth trafodiadau tir, sy’n dweud y bydd y cyfraddau a’r bandiau’n cael eu cyhoeddi, neu fod disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi, erbyn diwedd y mis hwn, erbyn Hydref 2017. Felly, nid oes llawer o amser ar ôl ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw. Os na fydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad hwnnw, a allwn fod yn gwbl sicr y caiff ei chyhoeddi yr wythnos nesaf yn y gyllideb ddrafft, ac a allwn fod yn sicr y bydd yn cynnwys yr holl fanylion am y cyfraddau a’r bandiau hefyd, yn hytrach na’i bod yn ein gorfodi i aros am fwy o wybodaeth yn nes ymlaen?