<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:44, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae Nick Ramsay wedi gwneud y pwynt yn gyson iawn yn ystod taith y ddau Fil treth ac yn y Pwyllgor Cyllid, fod y sicrwydd hwnnw i drethdalwyr Cymru wrth inni symud tuag at y set newydd o drefniadau yn bwysig iawn, fel y mae sicrwydd i fusnesau. Dyna pam roeddwn yn fwy na pharod i ymrwymo i wneud cyhoeddiad cynnar ar fwriad y Llywodraeth mewn perthynas â chyfraddau a bandiau, a thrwy gyhoeddi hynny ar 3 Hydref yng nghyd-destun y gyllideb yn gyffredinol, credaf y bydd hynny’n gymorth i bobl ddeall pam ein bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethom. Ynghyd â’r gyllideb, byddwn yn cyhoeddi set newydd o wybodaeth nad oedd ar gael i’r Cynulliad cyn hyn, gan gynnwys, er enghraifft, asesiad annibynnol ysgol fusnes Bangor o’r rhagolygon treth sydd wrth wraidd y cyfraddau a’r bandiau y byddaf yn eu cyhoeddi.