Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 27 Medi 2017.
Rydych yn nodi dimensiwn arall: yr anghymesuredd creadigol sydd weithiau’n nodweddu safbwynt polisi Llafur, rwy’n credu, gan ddweud un peth yn San Steffan neu Brighton weithiau a dweud rhywbeth arall yng Nghymru. Yn fy marn i, cawsom ddatganiad braidd yn rhyfedd gan arweinwyr Llafur y tri chyngor mwyaf yng Nghymru, lle roeddent yn dweud y byddent yn cefnogi streic gan eu staff cyngor eu hunain yn erbyn eu cynghorau yn erbyn cap cyflog y gallent hwy a’u Llywodraeth Lafur eu hunain yng Nghymru ei godi. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd yn ymuno â’i gyd-aelodau Llafur i ddweud y byddai’n annog ac yn cefnogi streic yng Nghymru gan weithwyr y sector cyhoeddus, neu a yw’n barod i arwain drwy esiampl a chodi’r cap cyflog hwnnw fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i wneud?