Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nawr, tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn rhai prosiectau morol oddi ar arfordir Sir Benfro, gydag un ohonynt yn eiddo i awdurdod lleol yn Lloegr. Nawr, os yw prosiectau yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol o’r tu allan i Gymru, mae rhai o fy etholwyr yn pryderu y gallem fod mewn sefyllfa lle nad yw lleoedd fel Sir Benfro, ac yn wir, Cymru gyfan, yn cael y budd o brosiectau o’r fath. Nawr, trafodais y mater hwn ddoe gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ond a allwch ddweud wrthym sut rydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am gyllid, yn sicrhau y bydd unrhyw arian grant a ddarperir i brosiectau ar draws holl adrannau’r Llywodraeth yn cael ei ailfuddsoddi yng nghymunedau Cymru? A allwch ddweud wrthym sut y mae eich adran yn monitro effeithiolrwydd prosiectau o’r fath i sicrhau bod cymunedau yma yng Nghymru yn elwa mewn gwirionedd o arian cyhoeddus a fuddsoddir gan Lywodraeth Cymru?