2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Medi 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd gwariant ar draws ei chyllideb? (OAQ51058)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r holl Weinidogion yn defnyddio ystod o dystiolaeth i fonitro effeithiolrwydd gwariant. Mae Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn nodi’r broses graffu drylwyr ar gyfer polisïau a rhaglenni newydd. Rwy’n monitro’r holl wariant presennol ar draws y Llywodraeth ar sail cylch misol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nawr, tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn rhai prosiectau morol oddi ar arfordir Sir Benfro, gydag un ohonynt yn eiddo i awdurdod lleol yn Lloegr. Nawr, os yw prosiectau yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol o’r tu allan i Gymru, mae rhai o fy etholwyr yn pryderu y gallem fod mewn sefyllfa lle nad yw lleoedd fel Sir Benfro, ac yn wir, Cymru gyfan, yn cael y budd o brosiectau o’r fath. Nawr, trafodais y mater hwn ddoe gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ond a allwch ddweud wrthym sut rydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am gyllid, yn sicrhau y bydd unrhyw arian grant a ddarperir i brosiectau ar draws holl adrannau’r Llywodraeth yn cael ei ailfuddsoddi yng nghymunedau Cymru? A allwch ddweud wrthym sut y mae eich adran yn monitro effeithiolrwydd prosiectau o’r fath i sicrhau bod cymunedau yma yng Nghymru yn elwa mewn gwirionedd o arian cyhoeddus a fuddsoddir gan Lywodraeth Cymru?
Diolch i Paul Davies am y cwestiwn. Mae’n gwneud pwynt pwysig. Clywais ei ddadl gyda Ken Skates ddoe. Fel Llywodraeth Cymru rydym yn rhoi cyfres o gamau ar waith i geisio sicrhau bod y gwariant a fuddsoddir mewn gweithgarwch yng Nghymru drwy Lywodraeth Cymru a’n partneriaid yn cael yr effaith fwyaf posibl ar yr economi ehangach. Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, er enghraifft, yn y blynyddoedd y mae wedi bodoli, wedi mwy na dyblu’r gwariant cyffredin ac ailadroddus ar gwmnïau Cymreig o gymharu â’r flwyddyn cyn ei sefydlu. Mewn perthynas â’r pwynt penodol a wnaed ganddo, drwy’r diwygiadau rydym yn eu gwneud i lywodraeth leol, rwy’n bwriadu darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol i ganiatáu iddynt wneud mwy o bethau nag y gall awdurdodau lleol yng Nghymru eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys rhywfaint o weithgarwch masnachol, sy’n rhywbeth y mae awdurdodau lleol dros y ffin wedi gallu ei wneud. Mae’n rhaid gwneud hynny mewn modd sensitif a gofalus, neu gall arwain at anhawster o fath gwahanol, ond drwy sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol fodd o wneud mwy nag y gallant ar hyn o bryd, bydd yn ffordd arall iddynt allu sicrhau bod eu hadnoddau sydd ganddynt a’r adnoddau sydd gennym ni yn cael eu buddsoddi mewn ffyrdd sy’n parhau i sicrhau canlyniadau i bobl leol yng Nghymru.
Mae llawer o dechnegau adolygu cyllidebau ar gael er mwyn edrych ar gyllidebau. A yw’r Ysgrifennydd cyllid wedi ystyried cyflwyno cyllidebu ar sail sero mewn meysydd gweithredol fel bod yn rhaid i bobl ailbrofi’r angen am rywfaint o’r gwariant sy’n digwydd?
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, o gyllidebu ar sail sero a sut y gall sicrhau bod cyllidebau’n cael eu hadeiladu eto o’r sylfaen a sut y mae pob agwedd ar wariant yn cael ei herio’n briodol. Defnyddiwyd ffurf o gyllidebu ar sail sero gennym wrth gyflwyno ein rhaglen gyfalaf bedair blynedd yr adeg hon y llynedd, drwy edrych eto ar yr holl gynlluniau gwahanol a oedd ar y gweill a sicrhau ein bod yn blaenoriaethu’r rhai roedd modd inni eu hariannu. Ac mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething wedi ymwneud â rhai o’r gweithgareddau cyllidebu ar sail sero o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, Dirprwy Lywydd, mae gennym bob amser ddiddordeb mewn defnyddio technegau i sicrhau ein bod yn alinio ein gwariant gyda’n prif flaenoriaethau, ac mae cyllidebu ar sail sero yn un o’r dulliau posibl y byddwn yn eu hadolygu’n barhaus wrth geisio gwneud hynny.