Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, o gyllidebu ar sail sero a sut y gall sicrhau bod cyllidebau’n cael eu hadeiladu eto o’r sylfaen a sut y mae pob agwedd ar wariant yn cael ei herio’n briodol. Defnyddiwyd ffurf o gyllidebu ar sail sero gennym wrth gyflwyno ein rhaglen gyfalaf bedair blynedd yr adeg hon y llynedd, drwy edrych eto ar yr holl gynlluniau gwahanol a oedd ar y gweill a sicrhau ein bod yn blaenoriaethu’r rhai roedd modd inni eu hariannu. Ac mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething wedi ymwneud â rhai o’r gweithgareddau cyllidebu ar sail sero o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, Dirprwy Lywydd, mae gennym bob amser ddiddordeb mewn defnyddio technegau i sicrhau ein bod yn alinio ein gwariant gyda’n prif flaenoriaethau, ac mae cyllidebu ar sail sero yn un o’r dulliau posibl y byddwn yn eu hadolygu’n barhaus wrth geisio gwneud hynny.