Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 27 Medi 2017.
Mae ysgolion yn rhan bwysig iawn o’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarparwn a hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chyllid i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cyllid longyfarch Cyngor Caerdydd ar yr adeilad newydd arfaethedig ar y cyd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg Glan Ceubal ac Ysgol Gynradd Gabalfa yn fy etholaeth yng Nghaerdydd? Mynychais seremoni torri’r dywarchen ar gyfer y ddwy ysgol newydd hon yr wythnos diwethaf. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i barhau i ariannu’r adeiladau newydd rhagorol hyn ledled Cymru?