Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i Julie Morgan, ac ategaf ei llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddatblygu Ysgol Glan Ceubal. Mae’n wych gweld cyfleuster cyfrwng Cymraeg newydd yn y rhan honno o’r ddinas, ochr yn ochr ag Ysgol Gynradd Gabalfa. Fe’i gwnaed yn bosibl drwy fenter benthyca llywodraeth leol a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, a lle rydym wedi gallu cefnogi gwerth £170 miliwn o wariant gan awdurdodau lleol yn rhan gyntaf y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bellach, rydym wrthi’n cynllunio band B y rhaglen honno, drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol, lle rydym yn gobeithio gallu cefnogi’r gwaith o adeiladu ysgolion newydd gwerth hyd at £500 miliwn ledled Cymru.