Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 27 Medi 2017.
Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae angen sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus ym mhob awdurdod lleol, ac mae angen i bob bwrdd asesu cyflwr economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei fro a chyhoeddi canlyniadau’r asesu, a chyhoeddi cynllun llesiant a fydd yn amlinellu amcanion lleol yn ôl nodau’r Ddeddf, ynghyd â modd o’u cyflawni. Hoffwn i wybod sut mae’r gwaith yma’n mynd yn ei flaen a pha mor effeithiol ydy’r gwaith o safbwynt cyfrannu at y nod llesiant yn benodol.