Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae cyllid buddsoddi i arbed yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfres o egwyddorion sy’n cynnwys y canlynol: darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, creu arbedion sylweddol sy’n rhyddhau arian, annog mwy o gydweithredu rhwng cyrff a gwasanaethau cyhoeddus, a rhannu gwersi a ddysgwyd a’r arferion gorau.