<p>Egwyddorion Buddsoddi i Arbed</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:14, 27 Medi 2017

Diolch am yr ymateb yna. Mi hoffwn i awgrymu wrth yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai buddsoddi mewn datblygu addysg feddygol israddedig gynhwysfawr yn y gogledd—hynny ydy, yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a reit trwy eu hastudiaethau—yn enghraifft wych o weithredu egwyddorion buddsoddi i arbed. Rydym ni’n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario £80 miliwn ar locyms yn y tair blynedd diwethaf. Rhywsut, mae’n rhaid torri’r cylch dieflig yma, ac mi fyddai buddsoddi, rydw i’n meddwl, mewn hyfforddi meddygon yn lleol yn gyfraniad mawr at hynny. Nid ysgol feddygol lawn annibynnol yr ydym ni’n gofyn amdani hi, gyda llaw; efallai y daw hynny maes o law. Ond, tra bod yna bob mathau o resymau bod angen y datblygiad yma, er bod y Llywodraeth ddim fel petaen nhw’n gweld hynny hyd yn hyn—i’r Ysgrifennydd cyllid yn benodol, rydw i’n apelio am iddo fo gydnabod a gweld hyn fel enghraifft o fuddsoddiad synhwyrol rŵan er mwyn creu buddiannau hirdymor.