Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Medi 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y bydd yr Aelodau’n falch o glywed bod adolygiad annibynnol wedi canfod bod pob £1 a fuddsoddwyd wedi arwain at oddeutu £3 mewn arbedion. Mae hynny’n wirioneddol dda ac yn arwydd o gryn arloesedd. Rydym yn awyddus i weld mwy o hynny. Fodd bynnag, 0.4 y cant yn unig o fuddsoddiad o bron £14 miliwn y mae tai wedi’i gael o dan y cynllun hyd yn hyn. Tybed a wnewch chi edrych ar ffyrdd posibl y gallai’r sector tai elwa, efallai drwy leihau costau cychwynnol adeiladu cartrefi, ac yn enwedig mesurau i gefnogi safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni. Maent yn cael cryn effaith ar iechyd a lles y tenantiaid a’r bobl sy’n byw yn y tai hynny wedyn.