Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i David Melding am ei bwynt. Mae’n tynnu sylw at un o nodweddion y gronfa, sef ei bod wedi cael ei defnyddio gan rai rhannau o’r sector cyhoeddus yn llawer mwy rheolaidd nag eraill. Felly, mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru hanes gwych o ddefnyddio’r gronfa ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni, ac mae wedi arbed llawer iawn o arian yn y gwasanaeth iechyd o ganlyniad. Mae awdurdodau lleol wedi bod ychydig ar ei hôl hi mewn perthynas â’r gronfa buddsoddi i arbed, ond rydym yn annog y rhai a wnaeth lai o ddefnydd ohoni hyd yn hyn i ddefnyddio mwy arni yn y dyfodol. Rydym yn cymryd ceisiadau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn bellach, yn hytrach nag ar adegau penodol o’r flwyddyn, ac yn gweithio gyda phobl â llai o brofiad o wneud ceisiadau i’r gronfa, fel eu bod yn cael rhywfaint o fentora yn ystod y broses er mwyn annog y math o gais a grybwyllwyd gan yr Aelod.