<p>Diogelu Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:19, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedwch, mae nifer y cwestiynau rydych eisoes wedi eu hateb y prynhawn yma ar y mater hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid teg i lywodraeth leol, yn enwedig mewn cyfnod o gyni a orfodir arnom gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Ddechrau’r mis, mynychodd Jeremy Miles a minnau sesiwn holi ac ateb ar gyfer staff cyngor Castell-nedd Port Talbot, a daethant â’r pryderon hyn i’n sylw. Mynegwyd pryderon eraill ganddynt hefyd, megis materion yn ymwneud â chyllid grant a’r neilltuo a gymhwysir iddo, a’r heriau a wynebant y gellid eu hosgoi. Pan fyddwch yn cyhoeddi eich setliad ar 10 Hydref, a wnewch chi edrych ar gyllid grant a neilltuir i weld os gallwch roi hynny yn y grant cynnal refeniw er mwyn sicrhau y gall cynghorau ddefnyddio’r arian fel y gwelant orau ar gyfer darparu gwasanaethau?