Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 27 Medi 2017.
Mae model busnes Uber yn denu cryn dipyn o sylw: elw o 25 y cant ar gyfalaf rhywun arall—y gyrwyr, hynny yw. Tybed a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallant sicrhau bod cwmni fel hwn, nad yw wedi’i leoli yn y wlad hon, yn gallu cyfrannu’n briodol serch hynny at gostau cynnal a chadw ffyrdd a rheoleiddio ceir hurio, gan fod yn rhaid i gwmnïau tacsi eraill dalu swm priodol, ac mae’n gystadleuaeth annheg os ydynt yn dod yma heb wynebu’r lefel hon o reoleiddio.