Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 27 Medi 2017.
Mae’r Aelod yn llygad ei lle, a chodwyd y pwynt hwn ar sawl achlysur yn ystod y broses o lunio’r ddogfen ymgynghori a arweiniodd at nifer o gwmnïau tacsi yn cytuno y dylid cael cyfraniad teg. Er bod temtasiwn i gyfrannu at yr anghydweld presennol, yn enwedig o ystyried canlyniad y tribiwnlys y llynedd, nid wyf wedi gweld y dyfarniad—a mater yw hwn rhwng yr awdurdod trwyddedu a’r cwmni hurio preifat—ond gallaf ddweud eto y bydd ein cynigion ar gyfer diwygio tacsis yn mynd i’r afael â rhai o’r bylchau a nodwyd gan yr Aelodau yn y Siambr hon heddiw.