Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 27 Medi 2017.
A gaf fi ddiolch i Russell George, yn gyntaf oll, am gyflwyniad ardderchog i’r adroddiad hwn? Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw’r rheilffyrdd wedi eu datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Yn benodol, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, ac yn amlwg, nid yw’r broses o osod y fasnachfraint, sef caffael gwasanaethau teithwyr, wedi’i datganoli chwaith.
Nawr, er gwaethaf pob ymrwymiad i’r gwrthwyneb, bydd Llafur yn rhoi masnachfraint nesaf y rheilffyrdd i weithredwr sector preifat, ac yn ôl yr holl dystiolaeth hyd yn hyn, nid ydynt yn gallu gwneud hynny’n effeithiol hyd yn oed. Mae blerwch San Steffan a thangyflawniad Llafur yma wedi golygu y bydd oedi i’r broses o ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru eisoes yn costio £3.5 miliwn yn ychwanegol i drethdalwyr, ac o bosibl yn taflu’r holl broses o gaffael masnachfraint oddi ar y cledrau—gan chwarae ar eiriau’n fwriadol.
Mae twll du gwerth £1 biliwn yn dal i fod yng nghyllid y fasnachfraint, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau o hyd i gaffael y fasnachfraint. Edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf. Mae difaterwch San Steffan a phroblemau Llafur yma yn costio miliynau i drethdalwyr Cymru ac fe allai hynny olygu oedi i deithwyr trên.
Nawr, parthed yr oedi ar drosglwyddo pwerau caffael y rheilffyrdd, mae gwleidyddion Plaid Cymru yn San Steffan ac yma wedi tynnu sylw’n gyson at bryderon nad yw’r broses o drosglwyddo swyddogaethau sy’n ymwneud â chaffael wedi digwydd. Rydym wedi nodi nifer o ymatebion o’r blaen ac yn amlwg cawsom rai ymatebion cyhoeddus dros yr haf, ond nid yw’r materion hynny wedi eu datrys ac nid yw’n ymddangos bod dogfennau’r fasnachfraint a thendrau yn gwbl weithredol o hyd.
Nawr, er gwaethaf amryw o ymrwymiadau yn eu maniffestos ac ar lawr y Cynulliad, mae Llafur yng Nghaerdydd wedi gosod pedwar cwmni gweithredu trenau ar y rhestr fer i weithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau, fel y gŵyr pawb ohonom, o Hydref 2018 ymlaen—pedwar cwmni gweithredu preifat. Mae Llafur yn honni eu bod wedi eu cyfyngu gan Ddeddf Rheilffyrdd 1993, sy’n rhwystro gweithredwyr yn y sector cyhoeddus, sef yr eglurhad y gofynnir amdano yn argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor. Ond mae’n deg nodi, yn ystod taith Bil Cymru, Deddf Cymru 2017 erbyn hyn, fod Llafur yn San Steffan wedi ceisio diwygio Deddf rheilffyrdd 1993 er mwyn caniatáu i weithredwr trenau sector cyhoeddus gystadlu am fasnachfraint Cymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban ers y Ddeddf yr Alban ddiweddaraf. Ond er gwaethaf y methiant i ennill y consesiwn hwn, roeddent yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol Bil Cymru yma yn y Cynulliad, gan wneud unrhyw ymrwymiad hirdymor i berchnogaeth gyhoeddus braidd yn ddiystyr, o ystyried eu bod wedi cefnogi Bil a oedd yn eu rhwystro’n weithredol rhag gwneud hynny.
Felly, mae heriau’n parhau o ran tendro a’r holl broses o gaffael masnachfraint. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma. Fel y crybwyllais, mae oedi eisoes wedi costio £3.5 miliwn ychwanegol i drethdalwyr: arian a ddylai, yn ddelfrydol, fod wedi cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau rheilffordd a’r rhestr o broblemau a nodwyd gan deithwyr y soniodd Russell George amdanynt ar y dechrau, arian y gellid bod wedi’i ddefnyddio i wella hygyrchedd a gwella cyfleusterau, prydlondeb a glendid trenau, ac i sicrhau bod prisiau tocynnau’n deg a fforddiadwy. Ond yn y pen draw, a yw rheolaeth dros ein system reilffordd ein hunain yn ormod i ofyn amdano? Diolch yn fawr.