Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i’r Aelod am ildio. Mae’n cyfeirio’n briodol at oed y cerbydau ar fasnachfraint Cymru. Oherwydd oed y cerbydau a’r achosion o ddrysau’n mynd yn sownd a hyd yn oed tanau ar drenau, tybed a yw’n cytuno â mi y dylid cynnwys ymrwymiad yng nghontract y fasnachfraint nesaf—pwy bynnag fydd yn ei chael—i beidio torri nifer y gardiau ar fasnachfraint Cymru o safbwynt diogelwch y teithwyr a’r staff sy’n gorfod defnyddio cerbydau mor hen.