Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolchaf i chi, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i wrth fy modd o fod yn bresennol ac o siarad yn lansiad degfed Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae digwyddiadau, a gynhelir trwy fis Hydref, yn ein helpu i fyfyrio ar dreftadaeth gyfoethog Cymru a chyfansoddiad amrywiol ei phobl a'u cyfraniad at lunio Cymru. Ac mae'n rhoi cyfle i ni fel corff seneddol estyn allan i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’u hannog i ymgysylltu â ni a'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, bydd ein cynllun prentisiaeth Cynulliad nesaf yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf. A gaf i ofyn i chi, felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ceisiadau gan gymunedau pobl dduon ac ethnig?