<p>Cymru fel Gwlad Amrywiol o ran Ethnigrwydd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni'n darparu £360,000 yn ystod 2017-20 ar gyfer rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, gan ddarparu gwybodaeth, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru ar faterion a heriau allweddol, a bydd hynny'n ein helpu ni, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gallu recriwtio mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n llawn poblogaeth a chyfansoddiad Cymru.