<p>Cymru fel Gwlad Amrywiol o ran Ethnigrwydd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni’n ceisio gweithio, wrth gwrs, trwy ein hymgysylltiad â'r gwahanol gymunedau, trwy'r gwahanol fforymau sydd gennym, a hefyd, wrth gwrs, y gwaith gyda llysgennad Gwlad Pwyl a chynrychiolwyr diplomyddol Gwlad Pwyl yn y DU. Rydym ni’n fwy na pharod i weithio gyda'r llysgennad er mwyn nodi lle mae grwpiau o'r fath yn bodoli yng Nghymru a sut y gallwn ni ymgysylltu â nhw orau. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod. Os byddaf yn ysgrifennu at lysgennad Gwlad Pwyl, efallai pe gallem amgáu'r geiriau y mae wedi eu defnyddio yn y Siambr hon yn rhan o'r llythyr, ac yna wrth gwrs, gallwn weld sut y gallwn gydweithio gyda'n gilydd orau i sicrhau'r canlyniad y mae wedi ei ddisgrifio.