Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 3 Hydref 2017.
Tair wythnos yn ôl, roeddwn i’n bresennol mewn cyfarfod yn Wrecsam gyda llysgennad Gwlad Pwyl o Lundain, y prif gonswl o Fanceinion, cynrychiolydd y cyngor, gwahanol asiantaethau a oedd yn bresennol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr o’r cymunedau Pwylaidd a Phortiwgeaidd, yn trafod sut y gallem ni ddatblygu canolfan gyswllt. Yn yr achos hwn, siaradodd conswl Gwlad Pwyl am y ffaith y byddai’n bosibl y gallai clybiau busnes cymunedol Pwylaidd godi'r cyllid i gael mynediad at hyn. Ond mae angen rhywun arnom i hwyluso’r ffordd ymlaen, i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl yn y cymunedau hyn yn parhau i’w hwynebu, a hefyd, o ganlyniad, i leihau pwysau ar wasanaethau statudol. Sut gallai Llywodraeth Cymru helpu i hwyluso cynnydd yn y maes hwn?