Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 3 Hydref 2017.
Prif Weinidog, ni allwch chi gondemnio San Steffan am ddiffyg tosturi gan barhau i dderbyn bod y pwerau i atal digartrefedd yn dal i fod yn San Steffan. Rydych chi'n iawn—rydych chi wedi diwygio'r system ddigartrefedd yn ddiweddar i fabwysiadu dull mwy ataliol, ond yn amlwg ceir nifer fawr o bobl sydd wedi syrthio drwy'r tyllau llydan iawn yn eich rhwyd ddiogelwch. Nawr, os ydych chi'n derbyn ein bod ni’n wynebu argyfwng digartrefedd—a byddwn i'n synnu o’ch clywed yn gwadu ein bod ni’n wynebu argyfwng—a wnewch chi ymrwymo i ddiddymu prawf Pereira i gael gwared ar fwriaded digartrefedd, gan roi terfyn ar angen blaenoriaeth, fel bod gan bawb hawl i gartref?