<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r ddeddfwriaeth wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â hynny. Mae ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau. Nid wyf yn credu ei bod hi’n gwneud synnwyr datganoli lles gan ein bod ni’n gwybod bod Cymru'n dderbynnydd net o'r pot cyffredinol. Rwy’n cytuno â hi bod gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn ddidostur, ac wedi arwain at fwy o bobl i fod yn ddigartref. Roeddwn i yn Brighton yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n hynod amlwg pa mor wael oedd y broblem yn Brighton. Mae gennym ni broblem yng Nghymru, rydym ni’n gwybod hynny. Roedd yn llawer gwaeth yno. Rwy'n credu bod rhan o hynny oherwydd, yn Lloegr, nad ydynt wedi deddfu deddfwriaeth a fyddai'n helpu i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Yr ateb i hyn, wrth gwrs, yw cael system les sy'n gweithio i bobl, system les sy'n drugarog, a system les a weinyddir gan Lywodraeth Lafur yn Llundain.