<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Y prynhawn yma— [Torri ar draws.] Roeddwn i'n gwybod bod y Siambr yn gylch, Llywydd; nid oeddwn i’n sylweddoli ei fod yn troi hefyd. Y prynhawn yma, byddwn yn clywed y gyllideb amlinellol gan yr Ysgrifennydd cyllid, ond mae'n amlwg bod ei ryddid wedi ei gyfyngu gan natur y ffordd yr ariennir Llywodraeth Cymru. Daw naw deg dau y cant o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy grant bloc. Felly, mae llwyddiant economi Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i wario yn dibynnu, yn hollbwysig, ar gyflwr economi'r DU, sydd, yn ei thro, yn dibynnu, yn hollbwysig, ar bolisïau economaidd y Llywodraeth yn San Steffan. A yw'n credu y byddai canlyniadau i Gymru y math o gynlluniau gwario a amlinellodd Jeremy Corbyn yr wythnos diwethaf yn Brighton, yn yr hirdymor, o fudd i economi Cymru? Maen nhw wedi dod i gyfanswm o tua £312 biliwn. Mae'n rhaid mai dyna un o’r areithiau drutaf yn hanes dynoliaeth. Mae hynny’n £4.15 biliwn y funud, £69.3 miliwn yr eiliad. Byddai rhaglen araith o'r fath yn gwneud economi’r DU yn fethdalwr mewn gwirionedd, ac ni all hynny fod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru.