Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 3 Hydref 2017.
Nid yw erioed wedi bod yn rhatach i fenthyg. Ym 1945, daeth Llywodraeth i rym yn y DU, yn llywyddu gwlad wedi ei dinistrio ac economi wedi ei dinistrio, gyda llawer llai o arian ar gael iddi. Ac eto llwyddodd i greu'r gwasanaeth iechyd gwladol, llwyddodd i roi diwydiant yn ôl ar ei draed. Llwyddodd i sicrhau bod safon byw pobl yn dechrau codi. Aeth i’r afael â gwlad a oedd wedi cael ei dinistrio oherwydd effeithiau rhyfel. Os gallan nhw wneud hynny, yna gall Llywodraeth Lafur ei wneud nawr. Rydym ni wedi cael saith mlynedd o gyni ac nid oes dim wedi newid er gwell. Mae wedi gwaethygu a gwaethygu a gwaethygu. Saith mlynedd wedi eu gwastraffu: mae'n amser am newid.