Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Hydref 2017.
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 17 Gorffennaf, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi hyn: ni fyddai’n ddoeth cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer tlodi. Onid ydy hyn yn ddatganiad cwbl rhyfeddol? Dim cynllun gweithredu penodol. Dim targedau ar gyfer lleihau tlodi. Dim monitro, oherwydd nid oes yna ddim byd i’w fonitro, er gwaetha’r ffaith bod dros 30 y cant o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. A ydych chi’n cytuno efo fi bod hyn yn arwydd clir fod y Llywodraeth Lafur yma wedi troi’i chefn yn llwyr ar deuluoedd tlawd Cymru?