2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Hydref 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar dlodi ymysg menywod ifanc yng Nghymru? (OAQ51108)[W]
Mae menywod ifanc yn fwy tebygol o fod yn rhan o aelwydydd un rhiant ac aelwydydd gwaith rhan amser sydd mewn mwy o risg o fyw mewn tlodi. Rydym ni’n darparu amrywiaeth o gefnogaeth i hybu ffyniant drwy eu helpu i ddod dros y rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd i mewn i fyd cyflogaeth er mwyn eu gwneud nhw yn fwy cyflogadwy ac i’w dodi nhw mewn sefyllfa i gael gwaith addas sy’n talu’n dda.
Diolch yn fawr. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Angela Rayner, ysgrifennydd addysg yr wrthblaid, wedi awgrymu yng nghynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn ymrwymo i roi terfyn ar dlodi misglwyf mewn ysgolion. A oes gan y Prif Weinidog unrhyw fwriad i gyflwyno mesur o'r fath yng Nghymru?
Do, sylwais ar y cyhoeddiad. Mae'n rhywbeth rwy'n gwybod y byddwn ni’n edrych arno fel Llywodraeth i weld sut y gellir ymdrin ag ef yn y modd mwyaf effeithiol. Ond mae'n gysyniad y mae angen ei archwilio'n ofalus iawn er mwyn sicrhau y gellir ymdrin ag ef yn effeithiol yng Nghymru.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ymwelais â labordai profi Severn Trent ym Mhen-y-bont ar Ogwr—efallai y byddwch yn gyfarwydd â nhw eisoes—ac roedd y rhan fwyaf o'r uwch dîm yno yn fenywod. Ni chawsant eu haddysgu'n ddiweddar yng Nghymru, mae gen i ofn, felly nid yw'n eich helpu chi o ran cwestiwn Andrew, ond, serch hynny, mae'n enghraifft wych o fenywod yn ymgymryd â gyrfaoedd STEM da. Maen nhw hefyd yn enghraifft dda, mewn cyfleuster lle byddech chi’n disgwyl addysg lefel gradd fel rheol, bod eu diddordeb yn troi nawr at y sector addysg bellach i weld a all myfyrwyr o’r fan honno gael eu penodi i swyddi priodol, ac fel y gwyddom, mae pobl o gefndiroedd tlotach yn tueddu i ddefnyddio addysg bellach ychydig yn fwy. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr bod Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn sefydlu gweithgor mewnol sy'n datblygu canfyddiadau adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allwch roi diweddariad i ni ar hynny, o ran pryd y gallem ni weld rhai canlyniadau yn ei sgil.
Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen honno. O ran yr orsaf bwmpio, byddaf yno ddydd Gwener, felly byddaf yn gallu clywed yn bersonol yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei ddweud wrthi hi.
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 17 Gorffennaf, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi hyn: ni fyddai’n ddoeth cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer tlodi. Onid ydy hyn yn ddatganiad cwbl rhyfeddol? Dim cynllun gweithredu penodol. Dim targedau ar gyfer lleihau tlodi. Dim monitro, oherwydd nid oes yna ddim byd i’w fonitro, er gwaetha’r ffaith bod dros 30 y cant o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. A ydych chi’n cytuno efo fi bod hyn yn arwydd clir fod y Llywodraeth Lafur yma wedi troi’i chefn yn llwyr ar deuluoedd tlawd Cymru?
‘Na’ yw’r ateb i hynny. Mae tlodi yn rhywbeth sy’n cael ei ddelio ag ef ar draws Llywodraeth; nid yw’n rhywbeth sydd dim ond yn dod o dan bortffolio un Gweinidog, ac rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw hwn. Os edrychwch chi ar beth y gwnaethom ni gyhoeddi wythnos diwethaf, mae’n amlwg ein bod ni’n ystyried tlodi fel rhywbeth sydd yn hollbwysig i’w ddatrys yma yng Nghymru, a’r ffordd i wneud hynny, wrth gwrs, yw sicrhau bod pobl â’r sgiliau sydd eu heisiau arnyn nhw, bod yna gyfleon i bobl, y ffaith bod nhw’n gallu cael gofal plant am ddim—rhywbeth, wrth gwrs, sy’n bolisi y gwnaethom sefyll arno yn yr etholiad, ac rydym ni’n symud ymlaen er mwyn gweithredu hynny—ac, wrth gwrs, i sicrhau bod yna swyddi ar gael sydd yn talu’n dda. Nid yw pob ‘lever’ gyda ni—o achos y ffaith rydym ni’n gwybod, ynglŷn â chyflogaeth ac ynglŷn â thâl, eu bod yn rhywbeth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—ond rydym ni moyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud y mwyaf rydym ni yn gallu wneud yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â thlodi.
Prif Weinidog, mae'r grŵp gweithredu ar dlodi plant wedi nodi'n gynnar iawn bod y ffordd y mae credyd cynhwysol wedi'i strwythuro yn peri risg wirioneddol i annibyniaeth ariannol menywod yn y cartref. Mae wir yn tanseilio eu gallu i fod yn annibynnol ac i gael annibyniaeth ariannol.
Rydym ni’n gwybod erbyn hyn gan Gyngor ar Bopeth Cymru bod rhai pobl yn yr ardaloedd treialu, rhai menywod, yn rhoi'r gorau i weithio oherwydd problemau gofal plant, o ganlyniad uniongyrchol i gynllun a chyflwyniad credyd cynhwysol fel ag y mae. Ac rydym ni’n gwybod nawr, wrth gwrs, yr wythnos hon, yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun, bod dros 80 y cant—dros 80 y cant—o dderbynwyr credyd cynhwysol sy'n cael ei gyflwyno yn mynd i ôl-ddyledion rhent. Mae ardaloedd treialu y Llywodraeth ei hun yn dangos ei fod yn drychineb llwyr a’i fod yn gyrru menywod ifanc, ond hefyd pawb, i dlodi. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa sylwadau pellach y gall eu gwneud i Lywodraeth y DU? Oherwydd mae’r effaith yng nghymunedau pob un ohonom yn mynd i fod yn sylweddol.
Wel, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, ond bydd yn rhaid i ni ymuno â’r ciw. Hynny yw, mae eu ASau eu hunain yn dweud y dylid rhoi'r gorau i'w gyflwyno. Pe gallwn i grynhoi agwedd y Llywodraeth Geidwadol, byddwn yn ei wneud fel hyn: lleihau'r baich ariannol ar y cyfoethog—torri trethi—a chynyddu'r baich ariannol ar y tlotaf—cael gwared ar gredydau treth, y dreth ystafell wely, credyd cynhwysol. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yn ogystal â hyn eu bod nhw’n gwneud y pethau hyn mewn ffordd ddi-glem, a dyna mae cyflwyniad presennol credyd cynhwysol yn ei wneud. Mae arweinydd yr wrthblaid yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Pan ein bod ni’n siarad am les, mae'n meddwl ei fod yn ddoniol. Wel, pam na aiff ef i siarad â phobl sy’n cael eu heffeithio gan hyn? Pam na aiff ef i siarad â phobl am fygythiad digartrefedd? Pam na aiff ef i siarad â phobl sy'n canfod eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw’n mynd i ôl-ddyledion rhent? Efallai y byddai'n dysgu sut beth yw bywyd go iawn wedyn. Oherwydd rydym ni’n ymdrin â'r materion hyn yn rheolaidd, ar sail etholaeth, ac rydym ni’n gweld creulondeb credyd cynhwysol, ynghyd â chymaint o’r polisïau eraill a ddatblygwyd gan Lywodraeth Geidwadol o fantais i’r cyfoethocaf yn unig.