<p>Tlodi Ymysg Menywod Ifanc</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, ond bydd yn rhaid i ni ymuno â’r ciw. Hynny yw, mae eu ASau eu hunain yn dweud y dylid rhoi'r gorau i'w gyflwyno. Pe gallwn i grynhoi agwedd y Llywodraeth Geidwadol, byddwn yn ei wneud fel hyn: lleihau'r baich ariannol ar y cyfoethog—torri trethi—a chynyddu'r baich ariannol ar y tlotaf—cael gwared ar gredydau treth, y dreth ystafell wely, credyd cynhwysol. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yn ogystal â hyn eu bod nhw’n gwneud y pethau hyn mewn ffordd ddi-glem, a dyna mae cyflwyniad presennol credyd cynhwysol yn ei wneud. Mae arweinydd yr wrthblaid yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Pan ein bod ni’n siarad am les, mae'n meddwl ei fod yn ddoniol. Wel, pam na aiff ef i siarad â phobl sy’n cael eu heffeithio gan hyn? Pam na aiff ef i siarad â phobl am fygythiad digartrefedd? Pam na aiff ef i siarad â phobl sy'n canfod eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw’n mynd i ôl-ddyledion rhent? Efallai y byddai'n dysgu sut beth yw bywyd go iawn wedyn. Oherwydd rydym ni’n ymdrin â'r materion hyn yn rheolaidd, ar sail etholaeth, ac rydym ni’n gweld creulondeb credyd cynhwysol, ynghyd â chymaint o’r polisïau eraill a ddatblygwyd gan Lywodraeth Geidwadol o fantais i’r cyfoethocaf yn unig.