<p>Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:06, 3 Hydref 2017

Yn ôl beth rwy’n ei ddeall o beth mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr economi wedi ei ddweud yn y gorffennol, y sefyllfa bresennol yw bod y fasnachfraint yn mynd i gychwyn heb fod y pwerau llawn na’r arian llawn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac felly mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn mynd i fod yn asiant dros Lywodraeth San Steffan. Os dyna’r sefyllfa, a gaf i ofyn i chi’n blwmp ac yn blaen, yng ngoleuni beth ddigwyddodd i drydaneiddio i Abertawe, a ydych chi’n ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i drosglwyddo pwerau llawn mewn pryd ac, yn bwysig, i drosglwyddo’r arian llawn mewn pryd yn ogystal?