<p>Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 3 Hydref 2017

Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, ni allwn ni ddim symud ymlaen, yn blwmp ac yn blaen. Rŷm ni wedi gwneud popeth sydd eisiau arnom ni, ac felly mae’n rhaid iddyn nhw nawr weithredu. Nid oes dim arwydd nawr y bydd yna broblem yn y pen draw. Rŷm ni’n moyn sicrhau bod y ‘franchise’ yn symud ymlaen ym mis Ebrill fel y dylai fe. Rŷm ni’n siarad, wrth gwrs, gyda’r undebau hefyd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall beth rŷm ni’n ceisio ei wneud. Byddai wedi bod yn llawer yn rhwyddach—llawer yn rhwyddach—petaen nhw wedi datganoli’r gyllideb a’r pwerau i ni y tro cyntaf, yn enwedig y pŵer i gyfeirio Network Rail. Nid yw hynny ddim gyda ni ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid inni ystyried ffyrdd newydd o wneud pethau, ond beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n gallu gweithredu nawr dros bobl Cymru mewn ffordd nad oedd yn bosib o’r blaen.