<p>'Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru — Cwricwlwm am Oes'</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, pe byddai hynny'n bryder, ni fyddai'r undebau addysgu yn cefnogi hyn, ond maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi cefnogi gweithrediad graddol. Mae sgiliau addysgu yn drosglwyddadwy. Nid yw'n wir bod rhywun wedi'i hyfforddi i addysgu cwricwlwm penodol. Mae ganddyn nhw sgiliau addysgu y maen nhw’n eu haddasu yn ôl y cwricwlwm sydd o'u blaenau. Nid yw’n ddigynsail, wrth gwrs, i ysgolion addysgu gwahanol gwricwla ar yr un pryd. Pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol, bu’n rhaid i ysgolion baratoi ar gyfer hynny. Roedd gorgyffwrdd yn aml bryd hynny. Roedd y cyfnod sylfaen yr un fath. Roedd fy nhad yn gweithio ym maes addysg yn y 1980au a gallaf ddweud wrthych, roedd pethau'n arfer newid bob chwe mis bron, yr oedd yn rhaid i'r athrawon ymdopi â hynny. Roedd gan Weinidogion gymaint o obsesiwn ar y pryd—ac nid Gweinidogion Cymru oedden nhw; nid oedd ganddynt reolaeth dros addysg bryd hynny, dros y maes llafur—roedd athrawon yn canfod eu hunain yn gorfod bodloni mympwy Gweinidogion a oedd eisiau newid pethau drwy'r amser. Nawr, does bosib mai dyna fyddai'r dull gorau. Mae'n hynod bwysig nad ydym yn cyflwyno cwricwlwm tan fod y proffesiwn yn barod. Maen nhw wedi nodi eu bod yn fodlon gyda'r dull hwn, a dyna pam yr ydym ni wedi dilyn y dull yr ydym ni wedi ei ddilyn.