2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Hydref 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu 'Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'? (OAQ51136)
Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 'Addysg yng Nghymru: Ein cenhadaeth genedlaethol' ar 26 Medi. Mae hwnnw'n ailddatgan ein hymrwymiad i lunio cwricwlwm gweddnewidiol er mwyn darparu system addysg well i Gymru.
Rwy'n croesawu'n gyffredinol agwedd Llywodraeth Cymru at weithredu argymhellion yr Athro Graham Donaldson, ond bydd Aelodau'n ymwybodol o sylwadau'r Athro Donaldson a adroddwyd gan y BBC y bore yma, pryd y dywedodd fod cynnydd yn parhau i fod yn dda, ond rhybuddiodd hefyd yn erbyn unrhyw golli momentwm yn holl ddeinamig y diwygiad hwn.
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r Athro Donaldson ynghylch y newidiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf? A beth fyddai ymateb y Prif Weinidog i bryderon yr Athro Donaldson ynghylch y colli momentwm posibl?
Wel, mae'r Athro Donaldson yn goruchwylio'r bwrdd gweithredu mewn gwirionedd. Mae'n cytuno ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir i gyflwyno'r cwricwlwm fel cyflwyniad graddol yn hytrach na phopeth ar yr un pryd. Bydd y dull yn golygu bod gan bob ysgol yr amser i ymgysylltu â datblygiad y cwricwlwm a bod yn gwbl barod, wrth gwrs, ar gyfer y newidiadau. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eisoes wedi dweud bod angen i ni barhau â'n hymgyrch i greu cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyna beth fyddwn ni’n ei wneud, ond ar y cyflymder priodol.
Prif Weinidog, er i ni groesawu gohirio gweithrediad y cwricwlwm, un agwedd sy'n dal i beri pryder i ni yw'r ffaith y bydd yn ofynnol i ysgolion uwchradd gyflwyno dau gwricwlwm ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion hynny am gyfnod o bum mlynedd. Nawr, mae hynny’n mynd i achosi anhrefn llwyr ac rwy'n credu ei fod yn mynd i sicrhau dryswch, yn enwedig i athrawon sydd newydd gymhwyso ac sy'n dod i mewn i'r system, a fydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu cwricwlwm newydd ond yn gorfod darparu’r hen un, ac i’r proffesiwn sydd eisoes dan bwysau sydd gennym ni allan yn y fan yna, y dywedodd oddeutu 70 y cant ohonynt eu bod yn teimlo eu bod yn gorweithio a dan straen oherwydd eu llwyth gwaith. Felly, beth ydych chi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod ysgolion yn barod i ddarparu dau gwricwlwm i'r disgyblion yn yr ysgolion hynny a sicrhau nad yw cyrhaeddiad disgyblion yn gostwng o ganlyniad, ac nad yw'r staff yn gorweithio mwy nag y maen nhw nawr?
Wel, pe byddai hynny'n bryder, ni fyddai'r undebau addysgu yn cefnogi hyn, ond maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi cefnogi gweithrediad graddol. Mae sgiliau addysgu yn drosglwyddadwy. Nid yw'n wir bod rhywun wedi'i hyfforddi i addysgu cwricwlwm penodol. Mae ganddyn nhw sgiliau addysgu y maen nhw’n eu haddasu yn ôl y cwricwlwm sydd o'u blaenau. Nid yw’n ddigynsail, wrth gwrs, i ysgolion addysgu gwahanol gwricwla ar yr un pryd. Pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol, bu’n rhaid i ysgolion baratoi ar gyfer hynny. Roedd gorgyffwrdd yn aml bryd hynny. Roedd y cyfnod sylfaen yr un fath. Roedd fy nhad yn gweithio ym maes addysg yn y 1980au a gallaf ddweud wrthych, roedd pethau'n arfer newid bob chwe mis bron, yr oedd yn rhaid i'r athrawon ymdopi â hynny. Roedd gan Weinidogion gymaint o obsesiwn ar y pryd—ac nid Gweinidogion Cymru oedden nhw; nid oedd ganddynt reolaeth dros addysg bryd hynny, dros y maes llafur—roedd athrawon yn canfod eu hunain yn gorfod bodloni mympwy Gweinidogion a oedd eisiau newid pethau drwy'r amser. Nawr, does bosib mai dyna fyddai'r dull gorau. Mae'n hynod bwysig nad ydym yn cyflwyno cwricwlwm tan fod y proffesiwn yn barod. Maen nhw wedi nodi eu bod yn fodlon gyda'r dull hwn, a dyna pam yr ydym ni wedi dilyn y dull yr ydym ni wedi ei ddilyn.