Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 3 Hydref 2017.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bwlio lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol mewn ysgolion. Rwy'n cydnabod parodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod â mi a Hannah Blythyn i drafod y mater hwn. Bydd hi'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Stonewall Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n amlygu bod mwy na hanner y bobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru, a 73 y cant o bobl trawsryweddol yng Nghymru, yn dal i wynebu bwlio yn yr ysgol, gyda chanlyniadau difrifol iawn mewn nifer o enghreifftiau. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru ac ar awdurdodau lleol i weithredu nifer o argymhellion, a byddwn yn croesawu datganiad yn ymwneud â pha gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar fater y mae'r Llywodraeth cydnabod ei fod yn fater o bwys.
Ac ail ddatganiad, os gwelwch yn dda, o ran pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gais Abertawe i fod y Ddinas Diwylliant, a gobeithiwn y bydd hynny o fudd i ranbarth ehangach bae Abertawe. Mae Hull, Dinas Diwylliant bresennol y DU, , wedi cael buddsoddiad sylweddol yn ei rhanbarth o ganlyniad. Mae ein rhanbarth ni wedi dioddef brad gan y Ceidwadwyr o ran trydaneiddio, ac rydym yn ofni y bydd hynny’n digwydd mewn cysylltiad â'r morlyn, felly byddem ni’n croesawu datganiad ar gefnogaeth y Llywodraeth ar gyfer y cais hwnnw.