Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch i Jeremy Miles am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r 'Adroddiad Ysgol' 2017 diweddaraf gan Stonewall Cymru, ac mae'n galonogol nodi bod yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, yn dangos bod nifer y disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cael eu bwlio oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol wedi gostwng gan bron i draean. Ond rydym yn amlwg yn cydnabod bod yn rhaid i ni wneud llawer mwy i atal y niwed addysgol ac emosiynol hirdymor posibl y gall bwlio ei achosi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn glir iawn ei bod hi’n disgwyl i ysgolion fabwysiadu agwedd o ddim goddefgarwch i bob math o fwlio, gan gynnwys bwlio homoffobig, biffobig neu drawsffobig, a chydnabyddwn, wrth gwrs, o ran yr adroddiad ysgol hwnnw, a'r canllawiau gwrth-fwlio presennol, bod hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni ystyried yr adroddiad diweddaraf ac ystyried pa un a oes angen ei ddiweddaru.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais dinas a sir Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU ar gyfer 2021. Byddai, os yw’n llwyddiannus yn amlwg, yn darparu arian sylweddol i Abertawe. Rydym ni eisoes wedi darparu cefnogaeth ychwanegol ar ffurf adnoddau i helpu Abertawe â heriau ymarferol cyflawni’r flwyddyn, er enghraifft o ran arbenigedd mewn twristiaeth a marchnata, ac wrth gwrs mae'n cyd-fynd â’r fargen ddinesig ac yn cyflymu’r broses o adfywio’r ddinas. Ac wrth gwrs, ar ôl Brexit, bydd yn dangos i’r byd bod Cymru'n parhau i edrych tuag allan ac ar agor i fusnes. Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn ymuno â chyngor Abertawe, ac uwch swyddogion, pan fydd y panel asesu Dinas Diwylliant yn ymweld â'r ddinas ar 23 Hydref. Roeddwn i’n falch iawn o fod yn Abertawe yr wythnos diwethaf, ddydd Iau diwethaf, pan gyflwynwyd y cais yn ffurfiol gan arweinydd y cyngor, gyda'i gabinet a'i bartneriaid, pan ymwelais â Thabernacl Treforys yn etholaeth Mike Hedges, i ddathlu'r ffaith eu bod nhw wedi ennill anrhydedd Cymru Sanctaidd.