Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 3 Hydref 2017.
Ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â'r tŷ SOLCER ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf. Cawsom wybod nid yn unig am ganlyniadau perfformiad y tŷ gwych hwn fel gorsaf bŵer, sydd bellach yn cynhyrchu mwy o drydan nag y mae'n ei ddefnyddio am naw mis o’r flwyddyn, ond clywsom hefyd am bump ôl-osodiad gwahanol y mae Prifysgol Caerdydd a phartneriaid eraill wedi eu gweithredu, mewn pum math gwahanol iawn o dai. Ac, am brisiau fforddiadwy yn sicr, roedden nhw’n gallu gweddnewid y cartrefi hyn yn gyfan gwbl, a hynny ar gyfer yr hyn a fyddai, fel arall, yn gartrefi anodd iawn eu gwresogi, gan gynnwys un a oedd yn wag—ac wedi bod yn wag am flynyddoedd lawer—ac sydd bellach yn denu rhent premiwm oherwydd y safon uchel y mae’n ei gynnig.
Felly, rwy'n gwbl ymwybodol bod Arbed wedi gwneud gwaith gwych—dros £70 miliwn dros nifer o flynyddoedd, ac mae tua 20,000 o gartrefi, rwy'n credu, wedi’u gwella—ond tybed a allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth am sut y mae rhaglen Cartrefi Clyd Lywodraeth Cymru yn mynd i roi sylw i’r strategaeth neu ei chyflymu, gan ein bod ni bellach yn gwybod y gallwn ni ôl-osod cartrefi presennol, o gofio bod 80 y cant o'r tai y bydd pobl yn byw ynddyn nhw yn 2030 eisoes wedi'u hadeiladu. Nid yn unig y mae’n rhaid inni adeiladu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae'n rhaid i ni, yn amlwg, drechu’r tlodi tanwydd y mae llawer o'n cymunedau yn ei ddioddef. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ynglŷn â sut y gallwn ni gyflymu'r rhaglen honno, ar sail dealltwriaeth newydd o ran sut y gallwn ni fynd ati i wneud hynny.
Yr ail bwynt yr oeddwn i’n meddwl tybed a allem ni gael datganiad arno yw y gwelwyd, yr wythnos diwethaf, adroddiad ar y niferoedd mewn gwahanol awdurdodau lleol sy'n manteisio ar ostyngiadau i’r dreth gyngor i ofalwyr pobl anabl a phobl sâl iawn, fesul awdurdod lleol. Ac roedd gwahaniaeth aruthrol rhwng un awdurdod lleol a’r llall—mewn rhai achosion, roedd hyd at 77 gwaith yn fwy yn manteisio arno. Felly, tybed a yw hi'n bosibl cael datganiad ar y niferoedd sy'n manteisio ar ostyngiad i’r dreth gyngor i ofalwyr yng Nghymru, fesul awdurdod lleol, er mwyn i ni weld pa awdurdodau lleol sy'n ei hyrwyddo'n briodol.