Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu y byddwch chi'n falch iawn o glywed, yn dilyn ymweliad eich pwyllgor a thŷ SOLCER, yn dysgu am y mathau gwahanol o ôl-osod, yn unol â’r iaith frodorol leol, rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, i wella 25,000 o gartrefi eraill. A byddwn yn parhau i edrych ar ddewisiadau i gynyddu ein rhaglenni arbed ynni ein hunain. Ac, wrth gwrs, gan gydnabod na ellir cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio gydag arian y Llywodraeth yn unig. Mae hyn yn gofyn am gydweithio ar draws pob sector, i gynyddu’r mesurau arbed ynni y manteisir arnynt, yn enwedig ymhlith y cartrefi hynny sydd â’r modd i dalu. Felly, dyna rywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ei ystyried yn ofalus, o ran sut i sbarduno’r newid hwn orau, a chynyddu gweithgarwch yn y maes hwn.
O ran eich ail bwynt, rwy’n credu mai adroddiad MoneySavingExpert oedd yr adroddiad yr oeddech chi’n cyfeirio ato. Mae'r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth ychwanegol i ni ynghylch sut y rheolir y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ei gynlluniau ar gyfer cyllid llywodraeth leol yr wythnos nesaf, gan ein bod newydd gyhoeddi gwaith ymchwil i'r dulliau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i ymdrin â dyled y dreth gyngor, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y dystiolaeth amrywiol sydd ar gael yn y maes hwn, a byddwn yn cymryd nifer o gamau i sicrhau bod ein hymrwymiad i'r dreth gyngor yn decach.