Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 3 Hydref 2017.
Ydy, mae hi. Diolch am atgyfnerthu’r pwynt yr wyf yn ei wneud. O ganlyniad i afradlonedd yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Llywodraeth wedi colli ei gradd AAA. Rhoddais y ffigyrau yn fy nghwestiynau'n gynharach i'r Prif Weinidog. Bellach mae gennym ddyled genedlaethol o £2 triliwn y flwyddyn. Mae'n costio bron i £60 biliwn y flwyddyn i dalu’r ddyled. Mae’r arian yr ydym yn ei wario ar log dyledion yn arian a fyddai fel arall ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen go iawn. Felly, economeg ffantasi yw’r syniad y gallwch fenthyca am byth a pheidio â phoeni am sut i ariannu hynny, fel y mae pobl Venezuela, Zimbabwe a llawer o wledydd eraill yn gwybod er eu cost. Ac felly, efallai ei bod yn ffodus nad oes gan Lywodraeth Cymru ryw lawer o bwerau benthyca, a dweud y gwir, ac nad oes ganddynt gyfrifoldeb llawn am y cyllidebau sydd yn eu gofal, oherwydd pe baent yn gallu gwneud hynny, efallai y byddent yn ailadrodd rhai o'r enghreifftiau gwaethaf yn Llywodraeth Prydain ers y rhyfel. Felly, mae’r holl siarad hwn am gyni, a dweud y gwir, yn amhriodol iawn. Rydym wedi cael y gwrthwyneb i gyni dros y saith mlynedd diwethaf, ond ein bod ni'n talu'r pris, am flynyddoedd a blynyddoedd cyn hynny, am orwario enfawr ar y sail na fydd yfory byth yn dod. Felly, dyna realiti bywyd. Rhaid inni dalu yn y pen draw am orwario. Ni allwn barhau i orwario am byth. Rwy'n ildio.