4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:25, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Neil, am ildio. Roeddwn i eisiau gwneud y sylw bod Moody’s, wrth israddio statws credyd y DU tua phythefnos yn ôl—maent hefyd wedi nodi'n gadarnhaol bod hynny oherwydd y mater penodol iawn o ansicrwydd dros Brexit. Tybed a oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud am hynny—mae Moody’s wedi nodi bod eu hisraddio yn uniongyrchol oherwydd ansicrwydd dros Brexit.