Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 3 Hydref 2017.
Wrth gwrs, yn 2010, diffyg cyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Er, pe byddem wedi ceisio cynyddu'r diffyg yn gyflymach, byddem wedi gorfod wynebu toriadau mwy. Pe byddem wedi ceisio lleihau'r diffyg yn arafach—mae’n ddrwg gen i, y ffordd arall. Pe byddem wedi cynyddu'r diffyg drwy wario mwy, byddai ein dyled wedi cynyddu. Pe byddem wedi benthyca, neu geisio benthyca i wario mwy, byddem wedi gorfod wynebu toriadau mwy. Wedi'r cyfan, cafodd y gwledydd hynny â dyledion mawr, a wrthododd gyni, hynny yn llawn. Roedd y gyfradd dreth uchaf ers 2010 wedi bod yn uwch ym mhob un ond y mis olaf o 156 mis blaenorol y Blaid Lafur mewn grym. Mae'r enillwyr mwyaf nawr yn talu cyfran uwch o dreth nag erioed o'r blaen ar gofnod.
Ond i droi at yr adroddiad hwn, mae prif economegydd Cymru, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, wedi llunio adroddiad ochr yn ochr â hyn. Mae hwn yn dweud bod adeiladu tai’n creu effeithiau economaidd pwysig mwy hirdymor ac nad yw Cymru wedi bod yn adeiladu digon o dai newydd. Mae hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad yw'r DU yn adeiladu digon o dai, ond, yn amlwg, mae hynny wedi bod yn broblem sylweddol wrth i adeiladu tai ostwng i'r lefel isaf ers yr 1920au yn negawd cyntaf y ganrif hon. Mae hefyd yn dweud bod Cymru wedi gweld twf cyflym mewn costau tai dros y degawdau diwethaf ac mae tystiolaeth yn awgrymu ymatebolrwydd cyflenwad isel, h.y. mae diffyg adeiladu’n rhan fawr o'r broblem, ac yn berthnasol i'r sector preifat ac i gymdeithasau tai. Wrth gwrs, yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, gostyngodd nifer y cartrefi cymdeithasol newydd a ddarparwyd yng Nghymru 71 y cant wrth i restrau aros luosogi. Erbyn 2009-10, roedd gan Lywodraeth Cymru y lefel gymesur isaf o wariant ar dai o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y DU. Erbyn 2012, dywedodd 'Adolygiad Tai y DU' mai Llywodraeth Cymru ei hun oedd yn rhoi blaenoriaeth is i dai yn eu cyllideb gyffredinol. Yn 2013, Cymru oedd yr unig ran o'r DU lle aeth adeiladu tai tuag yn ôl ac mae'n dal i fod ar ei hôl hi ers hynny.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged nad yw’n uchelgeisiol i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu tai cymdeithasol, ond mae'n cynnwys elfen fach o dai cymdeithasol. Mae'n cynnwys prynu cartrefi gyda chymorth a rhent canolraddol ar gyfer pobl sy'n ennill mwy na phobl a fyddai'n gymwys i gael tai cymdeithasol ac fel arall ar adeg pan fo adroddiadau olynol gan gyrff annibynnol wedi dweud bod angen rhwng 12,000 a 15,000 o dai, neu gartrefi newydd, a ddylwn ddweud, bob blwyddyn yng Nghymru os ydym am dorri'r argyfwng tai, nad oedd yn bodoli ym 1999. Felly, pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i sut i dorri'r argyfwng tai hwnnw gyda chytundeb tai newydd i Gymru sy'n ymwneud â'r sector cyfan?
Wyth mlynedd ar ôl i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ganfod bod Cymunedau yn Gyntaf wedi methu â gweithredu gyda rheolaethau llywodraethu corfforaethol effeithiol, rheolaethau ariannol ac adnoddau dynol a llwybrau archwilio, chwe blynedd ar ôl adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, a ddywedodd mai’r cynhwysyn coll oedd ymwneud â'r gymuned, ac ar ôl £0.5 biliwn o wariant ar y rhaglen, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr haf hwn na fyddai'r cynllun yn cael ei ddisodli, bod hanes ei waith yng Nghymru yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig wedi bod yn gymysg, ac nad yw'r ffigurau'n symud.
Felly, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet, o ran sut i ddyrannu cyllidebau, yn ymateb i'r datganiad yn lansiad Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fis Mai diwethaf, Mai 2016, gan gyfarwyddwr tai cymdeithasol Sir Fynwy, a ddywedodd, ‘Roedden ni’n arfer dweud wrth bobl beth y gallant ei gael. Rydyn ni nawr yn gofyn iddynt beth maen nhw am ei gyflawni’, gan symud o ddulliau seiliedig ar anghenion i ddulliau seiliedig ar gryfderau? Rwy'n gwybod yn bersonol bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu'n gryf yn hyn, ond nid wyf yn credu efallai fod dyraniadau’r gyllideb yn adlewyrchu'n llawn yr angen i symud at broses sy'n unioni sefyllfa lle gall pobl a chymunedau deimlo eu bod yn derbyn gwasanaethau’n oddefol yn hytrach na’u bod yn asiantau gweithredol ym mywydau eu teuluoedd eu hunain.
O ran atal ac ymyrryd yn gynnar, sy'n allweddol i agendâu Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau, ac i'ch deddfwriaeth eich hun, nid oes diffiniad gwirioneddol o atal yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Groes Goch wedi tynnu sylw at y ffaith eu bod, yn Lloegr, wedi bod yn monitro'r dyletswyddau atal, gan edrych ar sut y mae awdurdodau lleol yn eu gweithredu, ac yn tynnu sylw at bryderon a phroblemau yno. Ond sut y mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif faint o arian y bydd ei angen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau atal, a sut y mae hyn wedi'i adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr rheng flaen a phobl sy'n gweithio gyda hwy sy'n cael y gwasanaethau i ofyn sut y gallwch, efallai drwy fuddsoddi mwy yn y gwasanaethau hynny, leihau llawer mwy o gostau i'r gwasanaeth statudol? Diolch.