Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 3 Hydref 2017.
A gaf i yn gyntaf oll ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei araith a’r hyn y mae wedi’i ddweud wrthym heddiw? Rwy'n meddwl bod y cyfeiriad y mae wedi'i amlinellu yn un sydd er lles pobl Cymru. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni i gyd, weithiau, gofio hyn: y gallwn ni ddod yma a dangos ein hunain, i wneud ein hunain deimlo'n dda, ond y gwir amdani yw ein bod yma i wella pethau i holl bobl Cymru, ac mae’n ymddangos mai dyna beth fydd y gyllideb hon yn ei wneud, o fewn y cyfyngiadau difrifol a osodwyd gan Lywodraeth San Steffan.
Ac rwyf am ymdrin â thri phwynt. Y cyntaf yw parhad y cyni, yr ail yw codi trethi, a’r trydydd yw’r gwariant arfaethedig. Rydyn ni'n gwybod nad yw cyni’n gweithio—rydym wedi cael wyth mlynedd ohono. Hynny yw, faint o flynyddoedd mwy ohono y mae'n rhaid inni ei gael cyn inni ddarganfod nad yw'n gweithio? Mae bron fel dyn neu fenyw yn taro eu pen yn erbyn y wal a chanfod nad yw'n gwneud dim lles i’w pen. Hynny yw, ar ôl wyth mlynedd o wneud hynny, byddech wedi meddwl y byddent wedi sylweddoli nad yw taro eu pen yn erbyn y wal wedi gwneud dim lles. Yn anffodus, nid yw’n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn dysgu o'r hyn maen nhw'n ei wneud.
Mae twf yn amrywio rhwng bod yn araf a ddim yn bodoli. Mae gwariant cyhoeddus yn disgyn mewn termau real. Drwy ddiffiniad, nid yw cyni’n gweithio. Ond a ydym yn synnu? Nid yw erioed wedi gweithio. Ni allaf feddwl am unrhyw enghraifft—felly byddwn i'n derbyn pe byddai unrhyw un ohonoch eisiau dweud wrthyf am un—lle mae cyni wedi dod â thwf i economi. Ac mae arnom angen twf. Twf o bump y cant yn ein heconomi yw lle y dylem fod, lle mae angen inni fod, ac, os ydym yn bwriadu bod yn wlad gyfoethog, lle bydd rhaid inni fod.
Ac nid dim ond ni. Os gallaf gymryd enghraifft o'r wlad Farcsaidd adnabyddus honno, America, yn yr 1930au defnyddiodd Hoover gyni yn America i droi dirwasgiad o ddrwg i waeth. Sut y daeth America allan ohoni? Cyflwynodd Franklin Delano Roosevelt Fargen Newydd. Beth oedd y Fargen Newydd yn ei gynnwys, a gyflwynwyd ganddo pan ddaeth yn Arlywydd yn 1933? [Anghlywadwy.]—oedd ei angen gan y Llywodraeth ffederal i ddod â’r wlad allan o'r dirwasgiad. Yn ystod dyddiau cyntaf gweinyddiaeth Roosevelt cafodd deddfau diwygio bancio, rhaglenni rhyddhad brys, rhaglenni rhyddhad gwaith, a rhaglenni amaethyddol eu pasio. Yn ddiweddarach, esblygodd ail Fargen Newydd, gan gynnwys rhaglenni amddiffyn undebau, deddf nawdd cymdeithasol, a rhaglen i gynorthwyo ffermwyr a oedd yn denantiaid a gweithwyr mudol. A oes unrhyw un sydd wedi meddwl am hyn o gwbl yn credu nad oes angen bargen newydd arnom ym Mhrydain bellach? Ac rwy'n siŵr mai Jeremy Corbyn yw’r dyn a fydd yn ei rhoi inni yn y dyfodol agos iawn—y fargen newydd sydd ei hangen arnom.
Oherwydd mae’n rhaid inni ddod allan o'r dirwasgiad hwn. [Torri ar draws.] Os hoffai David Melding edrych yn ôl, gall weld mai fi oedd un o’r gwleidyddion cyntaf yng Nghymru i gefnogi Jeremy Corbyn, ac rwyf wedi ei gefnogi'n gyson, ac rwy’n meddwl ei fod yn gwneud gwaith gwych, a bydd yn gwneud gwaith gwell fyth swydd pan mae'n Brif Weinidog, a gobeithiaf y bydd hynny’n fuan iawn.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen bargen newydd arnom i Brydain, yn San Steffan, sy’n cynnwys rhoi mwy o arian i mewn i'r economi, er mwyn i’r economi allu dechrau symud, a dechrau gwneud Cymru yn lle mwy cyfoethog?
Rwy'n croesawu cyflwyno'r ddwy dreth newydd, a gosod eu cyfraddau. Mae treth trafodiadau tir yn cymryd lle’r dreth stamp. Un o'r gwendidau, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn hyn, yw ei bod yn dreth hynod anwadal. Mae'n dreth gylchol iawn, ac mewn blynyddoedd da, gallwn gymryd llawer mwy nag y disgwyliwn, ond gall ostwng yn ddifrifol mewn blynyddoedd gwael. Gall ostwng tua 50 y cant rhwng blwyddyn dda a blwyddyn wael, fel y gwyddom o gyfnod 2008-9, pan aeth i lawr bron i hanner. Felly, mae'n dreth hynod anwadal.
A gaf i groesawu'r newidiadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno? Yn ddi-os, bydd cynyddu'r gyfradd ddechrau’n helpu'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas sy'n ceisio mynd ar yr ysgol dai. Ac mae system dreth gynyddol, rwy'n meddwl bod hynny’n rhywbeth nad ydym wedi ei glywed ers amser maith, yn cael ei rhoi ar waith, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n meddwl ei fod yn bwysig iawn. Y mwyaf sydd gan bobl, y mwyaf y dylent ei dalu. Ni ddylai fod yn system lle gallwch chi osgoi talu, ac mae’r dreth stamp yn un o'r trethi hynny sy'n anodd iawn, iawn i'w hosgoi. Felly, beth am inni gael system dreth gynyddol lle bydd y bobl sydd â'r mwyaf yn talu fwyaf.
Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi’n un sy'n cynhyrchu enillion sy’n lleihau. Rwy'n croesawu'n fawr y gyfradd anawdurdodedig. Rwy'n meddwl, os oes un peth a fydd wir yn atal pobl rhag tipio ar safleoedd heb awdurdod, mai'r ffaith y byddant yn talu mwy pan gânt eu dal nag ar safleoedd awdurdodedig yw hwnnw. Rydym wedi cael problemau—rwy'n meddwl bod llawer ohonom yn ein hetholaethau ein hunain wedi cael problemau—â phobl sy'n agor tir amaethyddol a thir arall lle maent wedi caniatáu i bobl dipio ac maent yn cael dirwyon, sy'n sylweddol is na'r hyn y byddai'r dreth tir wedi bod. Felly, roeddent ar eu hennill, fel petai. Nawr, o dan y system newydd, pan fyddant yn cael eu dal, bydd rhaid iddynt dalu mwy na phe baent wedi mynd i safle priodol. Rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sy'n anfon neges ynglŷn â’n hymrwymiad i'r amgylchedd. Ac a gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny?
Y pwynt olaf yr oeddwn am ei wneud yw bod cyfalaf yn bwysig iawn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio arian cyfalaf wrth adeiladu ysgolion newydd er mwyn lleihau costau refeniw cynnal yr ysgolion hynny.