Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 3 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi yn bwysig bod datganiadau yn cael eu gwneud yn y Siambr hon. Roeddwn yn falch iawn na ddatgelodd ei safbwyntiau ar bethau fel y materion treth tan yn union cyn y Cyfarfod Llawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn dda, iawn, iawn i fod mor o ddifrif ynghylch ei gyfrifoldeb i’r Siambr hon.
Nawr, nid dweud yw hynny fy mod i’n gwbl fodlon wrth gwrs â'r cynigion cyllidebol y mae wedi eu gosod ger bron, ac rwy’n pryderu'n arbennig am y cynigion ar gyfer treth dwristiaeth ac y bydd yn edrych ar hynny ac yn dechrau gwneud rhywfaint o waith yn ei gylch, oherwydd fe wyddom ni werth y diwydiant twristiaeth i Gymru: mae'n hynod bwysig, yn enwedig yn y gogledd, gan gynnwys yn fy etholaeth i, ac rydym ni’n gwybod am yr anawsterau y mae cyrchfannau glan môr wedi eu cael dros y blynyddoedd, ar hyd arfordir y gogledd mewn mannau fel Bae Colwyn, Llandudno a'r Rhyl. Gallai rhyw fath o dreth ar lety, sef yr hyn yr wyf yn credu yr ydych chi’n sôn amdano, gael effaith hollol ddinistriol ar y trefi hynny, a chredaf y byddai'n ergyd farwol i lawer o gymunedau yn y gogledd sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr. Felly, byddai gosod arwydd sy’n dweud, ‘Nid oes croeso ichi', yn fy nhyb i, yn beth niweidiol iawn y gallech chi fod yn bwriadu ei wneud. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad.