4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:46, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon? Ar gyfer fy nghyfraniad eithaf byr, rwyf am dynnu sylw at egwyddor bwysig iawn sydd wedi'i chynnwys a'i hategu yn y gyllideb hon a’r elfennau allweddol ar hynny sy'n helpu i sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn effeithiol, ac mae hi’n rhywbeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato'n gynharach, sef egwyddor ymyrraeth gynnar. Felly, boed yn ymyrraeth gynnar yn y rhaglen Cefnogi Pobl ynteu yn y buddsoddiad i symud ein gwasanaethau iechyd i leoliadau cymunedol, i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, neu i atal trais yn erbyn merched, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai'r mwyaf y gwnawn fuddsoddi ein cyllideb mewn ymyrraeth gynnar a chymorth, y byddwn yn gweld gwell canlyniadau i bobl.

Rydym hefyd yn arbed arian drwy leihau nifer ac amlder argyfyngau bywyd costus o ganlyniad. Mae'r ymagwedd hon, sy’n seiliedig ar yr egwyddor bwysig hon, wedi'i hymgorffori yn ein polisïau yng Nghymru ac, yn fy marn i, mae'n gyferbyniad llwyr i’r hyn y mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn ei wneud. Mae'n wahanol i gynifer o elfennau ar y rhaglen diwygio lles—rydym ni'n gwybod bod honno’n rhoi pwysau enfawr ar unigolion a theuluoedd. Mae'n wahanol i'r toriadau enfawr i gyllidebau cynghorau yn Lloegr a cholli gwasanaethau cymorth hanfodol mewn cysylltiad â hynny yno. Mae'r toriadau hynny, wrth gwrs, yn wrthgynhyrchiol ac yn fwy costus i'r pwrs cyhoeddus gan fod yn rhaid i bob un ohonom wynebu’r canlyniadau.

Dylem fod yn falch ein bod, yng Nghymru, er gwaethaf y toriadau o tua £1.5 biliwn i'n cyllidebau, yn dewis sefyll gyda phobl agored i niwed yn eu hangen. Ac wrth inni ddechrau'r broses o graffu ar y fargen gyllideb ddwy flynedd hon, dewch inni gydnabod yn glir bod gwleidyddiaeth cyni, fel y dywedodd Mike Hedges yn gynharach, yn parhau i greu hinsawdd galed i'n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n cytuno â mi bod ar Gymru, fel gweddill y DU, angen newid cyfeiriad a gobaith newydd? Oherwydd mae’r llwybr hwn o gyni parhaus yn datod yr union ffabrig cymdeithasol sy'n dal ein cymunedau at ei gilydd. Nid oes gennyf fawr o amheuaeth y bydd penseiri’r anobaith hwn, y blaid a gynrychiolir ar y meinciau gyferbyn, yn parhau i gyflwyno eu beirniadaethau o Lywodraeth Cymru, gan fynnu mwy o wario a gwell gwasanaethau, ond heb gynnig dim atebion eu hunain. Siarad gwag fydd hyn hyd nes iddynt ddechrau ein helpu i wrthdroi llanw cyni a mynnu bod eu Llywodraeth yn ariannu Cymru yn briodol.

Unwaith eto, a gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n cytuno, yng ngoleuni'r bygythiad parhaus i union gyfansoddiad ein cymunedau, a yw’r egwyddorion sy'n sail i'r rhan fwyaf o'r gyllideb ddrafft hon yn dda i Gymru? [Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen. Felly, wrth orffen, Llywydd, a gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am ddod i gytundeb â Phlaid Cymru sy'n ein galluogi ni i anrhydeddu blaenoriaethau maniffesto Llafur Cymru ac sy’n parhau i symud Cymru i’r cyfeiriad iawn, er gwaethaf yr holl anghyfiawnderau sylfaenol ​​y mae rhaglen gyni y Torïaid wedi eu gwthio arnom?