Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd, am alw arnaf i siarad heddiw. Mae'r ddadl hon yn nodi datblygiad arall eto yn y daith ddatganoli a ddechreuodd ychydig dros 20 mlynedd yn ôl. Yn wir, er gwaethaf y rhybuddion difrifol gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn gweld bod llawer i fod yn obeithiol yn ei gylch, o ran y pellter yr ydym ni wedi teithio a'r cynigion gwario y mae wedi eu hamlinellu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cynllun clir ar gyfer egluro cynlluniau gwario'r llywodraeth, a gwella lefelau craffu ac atebolrwydd.
Rwyf hefyd yn croesawu’r egwyddorion o gydweithio a chydweithredu y mae’r gyllideb yn seiliedig arnynt, sy’n dod â gwahanol bleidiau a safbwyntiau at ei gilydd i gael y canlyniadau gorau i Gymru. Mae’r agwedd hon i’w gweld hefyd yn y gwaith clos rhwng y tair gweinyddiaeth ddatganoledig, gan ddangos aeddfedrwydd y broses ddatganoli wrth iddi ennill ei phlwyf. Nid yw hyn i’w weld yn gliriach yn unman nag yn sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â defnyddio’r pwerau codi trethi y bydd gan y Cynulliad o fewn chwe mis, ac yng ngwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynnig treth newydd sydd wedi ei lunio yng Nghymru.
Fel y mae'r prif economegydd yn ein hatgoffa, mae yna benderfyniadau difrifol y bydd angen i ni eu gwneud ynghylch sut y gellir defnyddio'r pwerau newydd hyn orau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth i ddisgwyliadau’r cyhoedd newid, ac o gofio agwedd gul Llywodraeth y DU, gyda'i hobsesiwn unllygeidiog ar gyni. Felly, croesawaf sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn ceisio lleihau faint o arian sydd wrth gefn ac yn y cronfeydd yn ystod y flwyddyn a fyddai wedi ei gronni fel arall, gan ryddhau gwariant refeniw y mae gwir angen ei fuddsoddi yn y gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt.
Hoffwn gyfeirio’n fras at rai elfennau penodol o'r cynigion a amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. O ran y Prif Grŵp Gwariant cymunedau a phlant, croesawaf y buddsoddiad yn ein cynnig gofal plant blaengar. Gallwn fod yn falch bod ein cynigion yn cynrychioli'r fargen fwyaf hael ei natur yn unrhyw le yn y DU, a dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi rhieni a theuluoedd Cymru. Mae'r cynllun arbrofol yn Rhondda Cynon Taf sy'n cwmpasu fy etholaeth i eisoes yn gwneud gwahaniaeth, er fy mod i’n awyddus i weld pa wersi fydd yn cael eu dysgu ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cymryd rhan.
Mewn mannau eraill o dan y pennawd hwn, rwy’n croesawu’r ffaith y bydd y grant Cefnogi Pobl yn parhau, y gwyddom ei fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ddegau o filoedd o ddinasyddion agored i niwed yng Nghymru. Yn yr un modd, gwn mai un o'r cynigion a gaiff y croeso mwyaf gan grwpiau yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon yw'r cyllid ychwanegol i gefnogi adfywio cyfleusterau cymunedol. Mewn ardal fel Cynon, mae llawer o'r adeiladau hyn bron iawn yn rhai o bwys hanesyddol, gyda chysylltiadau balch â threftadaeth mwyngloddio y cymunedau y maent i'w canfod ynddynt, ac mae'n iawn ein bod ni’n sicrhau eu bod yn diwallu anghenion heddiw.
I unrhyw un sydd wedi fy nghlywed i’n codi pryderon am wasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd, rwy'n siŵr nad yw hi’n syndod fy mod yn gefnogol iawn o ryddhau arian i brynu cerbydau rheilffordd newydd. Bydd prynu'r stoc hwn yn arbed arian yn y tymor hir, a bydd hefyd yn dileu rhwystr hanfodol i negodi masnachfraint newydd Cymru a'r gororau. Mae'r ymrwymiad newydd i'r model buddsoddi ar y cyd a gaiff ei ddefnyddio i ariannu’r gwaith o ddeuoli’r A465 a'r ymrwymiad newydd i fetro de Cymru yn dangos bod seilwaith trafnidiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru yn parhau i fod yn nod canolog i Lywodraeth Cymru. Mewn mannau eraill, gwn fod ymrwymiad wedi'i wneud i fuddsoddi mewn mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, ac mae hynny'n elfen allweddol arall o’r seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am y cynnig hwn, pan gaiff ei rhyddhau maes o law, i sicrhau ein bod yn cael y manylion yn iawn er mwyn gallu ateb y galw yn y dyfodol.
Mae'r pwyslais parhaus ar addysg hefyd i'w groesawu, yn enwedig y cynlluniau i gyflymu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae Cwm Cynon wedi elwa ar dros £100 miliwn o fuddsoddiad o dan y polisi hwn—mwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru—felly rwy'n gwybod yn iawn pa mor bwysig y gall y cynllun hwn fod. Ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gymunedol Aberdâr, ysgol yr unfed ganrif ar hugain, ar ben-blwydd y refferendwm datganoli. Roedd hi’n wych trafod â'r disgyblion yno sut mae datganoli wedi ein galluogi i dorri ein cwys ein hunain yng Nghymru, ac mae'r ysgol hon, a'r polisi hwn, yn un enghraifft o hyn, lle mae ein penderfyniadau gwariant yn wahanol iawn i sut yr aeth y DU ati i ddiddymu cynlluniau i adeiladu ysgolion a sut y gwnaethant wrthod buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf.