Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 3 Hydref 2017.
Fe hoffwn i ofyn ambell gwestiwn a chodi rhai materion ynglŷn â rhai o'r trafodaethau cyllidebol â Phlaid Cymru. Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedwyd eisoes: a minnau wedi bod yma ers 10 mlynedd bellach, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni geisio dod o hyd i dir cyffredin lle y gallwn ni, a defnyddio ein galluoedd fel gwleidyddion i ddod o hyd i atebion, ynghyd ag i graffu ar bethau. Felly, rwy’n croesawu yn y cytundeb cyllideb hwn y buddsoddiad o £30 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer creu gorsaf ynni newydd ar gyfer Tata.
Mae hyn yn rhywbeth y bu ymgyrchwyr lleol a gwleidyddol o wahanol bleidiau yn ymgyrchu amdano ers cryn amser a chredaf fod hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Hoffwn gael mwy o wybodaeth ynghylch pa un a yw Llywodraeth Cymru wedi siarad â Tata ynghylch yr ymrwymiad penodol hwn, yn enwedig mewn cysylltiad â'r buddsoddiad arall y mae Tata wedi ei addo i'r undebau ac i'r gweithlu. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, os yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn ar gyfer gorsaf o’r math hwn, ein bod yn sicrhau’r arian gan Tata ar gyfer y gweddill ohoni, a’n bod yn sicrhau bod Tata wedi ymrwymo i'r ardal. Rwy'n credu bod hyn yn dangos arwydd clir bod hyn yn wir, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig, yn enwedig gyda newidiadau i'r gronfa bensiwn a'r gyd-fenter bosibl, ein bod yn gweld hyn yng ngoleuni presenoldeb Tata yma ar gyfer y tymor hir. Roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hefyd na fydd y cyhoeddiad hwn o ran Gwaith Dur Tata yn effeithio ar ymrwymiadau ariannol eraill a wnaed gan Lywodraeth Cymru, sydd bron iawn yn £13 miliwn. Ond fe hoffwn i gofnodi fy niolch am wneud hyn yn flaenoriaeth.
Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud â'r gronfa newyddiaduraeth. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny—£100,000 am un flwyddyn a £100,000 am yr ail flwyddyn. Rwyf eisoes wedi bod yn siarad â phobl yn y sector am yr hyn y gallai hynny ei olygu. Felly, rwy'n meddwl tybed sut y gall y sector helpu i lunio hynny ac i sicrhau ar goedd y byddai'r gronfa honno ar gyfer newyddiadurwyr lleol ac nid ar gyfer sefydliadau cyfryngol mawr a allai fod eisoes yn elwa ar gynllun arall—cynllun y BBC, er enghraifft. Fe hoffwn i i hyn fod yn benodol ar gyfer pobl sy’n ymsefydlu yn y maes fel na fyddai, er enghraifft, Port Talbot MagNet yn fy ardal i wedi dod i ben, byddai wedi gallu bod yn gynaliadwy. Dyna'r math o beth sydd ei wirioneddol angen arnom ni i i sicrhau bod sector newyddiaduraeth naturiol a llawr gwlad yn ffynnu yng Nghymru.
O ran y buddsoddiad mewn cerddoriaeth ym myd addysg, credaf ei fod yn £2 filiwn dros ddwy flynedd. Mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth yr wyf i’n ddiolchgar iawn amdano. Unwaith eto, sut gallwn ni fod yn rhan o lunio lle mae'r arian hwnnw'n mynd a sut y caiff ei wario? Fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor yr wyf i’n ei gadeirio wedi cynnal ymchwiliad i gerddoriaeth mewn addysg ac rydym ni wrthi’n llunio ein casgliadau terfynol. Rwy'n siŵr y bydd pobl o bob plaid yma yn y Siambr yn barod i feddwl am syniadau ynglŷn â sut y gellir gwario'r arian hwnnw yn y modd mwyaf effeithlon fel na fyddwn ni’n dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar lawr gwlad.
I orffen, fe hoffwn i ddweud hefyd fy mod i’n croesawu’r £14 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl. Er fy mod i’n meddwl y bu mwy o gefnogaeth i iechyd meddwl yn y blynyddoedd diwethaf, mae croeso i hynny bob amser. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yn digwydd yw—rydym ni’n sôn am y gyllideb ac rydym ni’n sôn am arian, ond, yn y pen draw, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sut yr ydym ni’n defnyddio'r arian sydd gennym ni mewn ffordd well. Felly, er mai arian newydd yw hwn, sut gallwn ni newid strwythurau a sut mae pethau'n gweithio yn y maes iechyd meddwl fel bod hyn yn wirioneddol adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar bobl ar lawr gwlad? Yr un enghraifft a roddaf yw efallai y gallem ni feddwl ynglŷn â rhoi’r arian hwn i roi cefnogaeth iechyd meddwl i'r gymuned bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a cheiswyr lloches. Unwaith eto, fel y soniais i, roeddwn i yr wythnos diwethaf gyda phobl o'r gymuned bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe, ac roedden nhw’n dweud bod rhai pobl yn cael eu troi ymaith rhag cael gweld meddygon teulu dim ond oherwydd bod y meddygon teulu yn gwrthod cael cyfieithydd yno. Ychydig wythnosau yn ôl cyflawnodd ceisydd lloches hunanladdiad yn Abertawe oherwydd na allai gael triniaeth. Felly, os ydym ni am ystyried sut yr ydym ni’n defnyddio'r arian hwn yn greadigol, a gawn ni feddwl amdano gyda hynny mewn golwg?
Fe hoffwn i orffen trwy adleisio sylw Rhun o ran Cefnogi Pobl. Nid wyf eisiau dadl fawr ynghylch pwy a sicrhaodd fodolaeth Cefnogi Pobl ond rwyf eisiau diolch i'r tîm trafod am gadw'r arian hwnnw, oherwydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl wahanol o bob cefndir a fydd yn hapus iawn, iawn â chyhoeddiad heddiw. Dyna beth yw ystyr hyn i mi. Gall pobl ddweud yr hyn a fynnon nhw, ond, mewn gwirionedd, bydd hynny'n golygu y bydd pobl yn dal ar y rheng flaen yn helpu'r bobl hynny sydd mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Felly, os mai’r cwbl y gallaf i apelio amdano yw, pan fyddwn yn trafod hyn yn y dyfodol, nad ydynt yn teimlo bod eu cyllideb o dan fygythiad bob blwyddyn ac y gallant gael rhywfaint o gysur yn y system ar gyfer y blynyddoedd i ddod—[Torri ar draws.] Wel, byddwn i wrth fy modd yn cefnu ar gyni, Lee. Nid wyf yn eich beirniadu yn hyn o beth. Dim ond dweud yr wyf i pe gallem ni gael sgwrs o bosib fel eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o drafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru ac y gallwn ni sicrhau y cefnogir y rhaglen honno yn y dyfodol.