Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 3 Hydref 2017.
Fe hoffwn i ymhelaethu ar y pwynt a wnaed ynghylch cyni, oherwydd, wrth gwrs, dyna'r cefndir i'r holl drafodaeth hon ynglŷn â’r gyllideb. Pan fo Llywodraeth y DU yn parhau i fynnu cadw at y mesurau cyni difäol hynny, yna mae'n amlwg y bydd yn rhaid cwtogi ar bethau. Nawr, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio pam mae gennym ni'r mesurau cyni hyn. Fe'u bwriadwyd i sicrhau ein bod yn lleihau ein diffyg a'n lefelau o ddyled, ond y gwir amdani yw, ers 2010, bod lefel ein dyled genedlaethol wedi cynyddu dros £800 biliwn i dros £2 triliwn—mae hyn o danoch chi ers 2010—ac mae’r Llywodraeth Geidwadol hon—