Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 3 Hydref 2017.
Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â siarad am ddim ond archwilio treth dwristiaeth ar hyn o bryd, ond a ydych chi'n cydnabod bod perygl y bydd canfyddiad yn lledaenu bod treth ar dwristiaid yn dod i Gymru nad yw’n bodoli ar draws y ffin yn Lloegr? Mewn ardaloedd fel fy un i fy hun, ar hyd ardaloedd y ffin, mae angen i ni warchod rhag creu’r math hwnnw o ganfyddiad. Felly, rwyf yn credu bod angen inni sicrhau mai dim ond archwilio yr ydym ni ar hyn o bryd.