Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 3 Hydref 2017.
Llywydd, nid wyf yn dweud nad yw'r pwyntiau hynny'n bwyntiau y mae angen eu hystyried, ond y cwbl yr wyf wedi ei ddweud heddiw yw ein bod ni’n bwriadu ystyried pethau, a byddwn yn ystyried yr achos cadarnhaol a wnaed ac yn cloriannu’r dadleuon hynny sy'n dweud wrthym pam y gallai fod angen i ni droedio’n ofalus. Dim ond eisiau bod yn glir oeddwn i ynglŷn â statws yr hyn a gyhoeddais y prynhawn yma.
Gwnaeth Adam Price gyfres o bwyntiau pwysig am y cytundeb a gyrhaeddwyd â Phlaid Cymru. Rydym ni yn Llywodraeth heb fwyafrif. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ôl yn gynnar yn ystod haf 2016 pan ddechreuodd y tymor hwn yn y Cynulliad, bod angen i Lywodraeth yn ein sefyllfa ni allu gwrando ar syniadau o rannau eraill o'r Siambr a cheisio dod i gytundeb pan fo hynny'n bosibl, ac mae'r gwaith gofalus iawn sydd wedi ei wneud dros yr haf wedi ein galluogi i wneud hynny. Nid ydym yn cytuno ar bopeth, fel y nododd Adam Price, ond mae'r pethau yr ydym ni wedi gallu cytuno arnynt yn bwysig, byddant yn gwneud gwahaniaeth, ac fe'u hamlinellwyd ganddo.
Llywydd, gwrandewais, ar bob gair, o’r hyn yr oedd gan Neil Hamilton i’w ddweud. Bu ond y dim imi â rhoi’r gorau iddi ar un adeg, ond daliais ati i wrando. Rwy'n credu mai dyma'r math o gyfraniad y gellid ei ddisgrifio orau gyda’r syniad o 'ffrwd o led-ymwybyddiaeth'. Roeddwn bron â rhoi'r gorau i wrando pan geisiodd fy narbwyllo fy mod i’n byw mewn cyfnod o afradlonedd ariannol ac mai’r hyn y mae pobl yng Nghymru wedi gorfod ei ddioddef am yr wyth mlynedd diwethaf yw —ac rwy’n meddwl fy mod yn ei ddyfynnu air am air—gwrthwyneb i gyni. Wel, nid yw'n teimlo felly, gallaf ddweud wrtho, i bobl sy'n byw yn fy etholaeth i, sy'n canfod nad yw eu cyflogau wedi codi dros y cyfnod hwnnw, y bu’n rhaid cwtogi ar eu gwasanaethau, a bod eu rhagolygon o unrhyw beth gwell yn cilio ymhellach fyth i'r dyfodol.